Agor cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant – arweiniad i ddechreuwyr :Cross Stitch – Arian, treth a budd-daliadau

Ar ôl i chi gael eich taleb ar gyfer y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, bydd angen i chi ddewis pa fath o gyfrif rydych am ei gael, yn ogystal â dewis darparwr i’w redeg. Yna, bydd angen i chi agor y cyfrif cyn gynted â phosib. Bydd yr arweiniad cam wrth gam hwn o gymorth i chi ddechrau arni.
Bydd angen i chi benderfynu pa fath o gyfrif fydd orau ar gyfer eich plentyn. Gallwch ddewis o wahanol fathau o gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, yn dibynnu ar sut rydych chi am fuddsoddi’r arian.
Ni chewch ddefnyddio’r cyfrif y telir eich Budd-dal Plant iddo.
Ceisiwch edrych ar nifer o gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gan wahanol ddarparwyr a dosbarthwyr cyn i chi benderfynu lle i agor cyfrif eich plentyn. Meddyliwch am y canlynol:
- ffioedd am redeg y cyfrif
- a oes rhaid i chi roi arian yn y cyfrif
- a oes lleiafswm y mae’n rhaid ei dalu i’r cyfrif
- yr enillion rydych yn debygol o’u cael ar yr arian rydych chi’n ei fuddsoddi
- a oes modd i chi reoli’r cyfrif dros y ffôn, ar-lein neu’n bersonol
- faint o bobl eraill all dalu i’r cyfrif
- sut allwch chi weld faint o arian sydd yn y cyfrif
Gallwch agor cyfrif os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- chi sydd wedi cael y daleb
- nid ydych chi’n cael Budd-dal Plant ar gyfer y plentyn, ond mae gennych chi gyfrifoldeb rhiant drosto
Gall y canlynol fod â chyfrifoldeb rhiant:
- rhieni
- llys-rieni
- rhieni sy’n mabwysiadu – ond dim ond pan fydd y broses fabwysiadu wedi dod i ben
- gwarcheidwaid
Nid yw’n cynnwys:
- nain/mam-gu a taid/tad-cu na pherthnasau eraill – oni bai mai hwy yw gwarcheidwaid cyfreithiol y plentyn
- rhieni maeth
Os nad oes gan neb gyfrifoldeb rhiant, bydd Cyllid a Thollau EM yn agor cyfrif ar gyfer y plentyn.
Os bydd rhywun â chyfrifoldeb rhiant ar gael yn nes ymlaen, gall wneud cais i reoli’r cyfrif.
I agor cyfrif, efallai y bydd rhaid i chi wneud un o’r canlynol:
- llenwi ffurflen gais y darparwr â llaw
- gwneud cais dros y ffôn neu’r rhyngrwyd
Os nad ydych chi eisoes yn gwsmer i’r darparwr, mae’n bosib y bydd rhaid i chi brofi pwy ydych chi. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd rhaid i chi ddarparu pasbort, trwydded yrru neu fil gwasanaethau dilys.
Ni fydd rhaid i chi gael archwiliad credyd er mwyn agor y cyfrif, oherwydd bydd y cyfrif yn eiddo i’ch plentyn, nid i chi.
Cyn i’r cyfrif gael ei agor, efallai y bydd cyfnod lle gallwch newid eich meddwl ac agor cyfrif gwahanol heb unrhyw gosb.
Ni fydd y cyfrif yn cael ei agor nes bydd y cyfnod hwn wedi dod i ben. Ni ellir talu arian i’r cyfrif tan hynny.
Holwch eich darparwr ynglŷn â’r canlynol:
- am ba hyd fydd y cyfnod hwn yn para
- pryd ydych chi’n debygol o weld yr arian yn y cyfrif
Ar ôl i chi agor y cyfrif:
- chi fydd y prif bwynt cyswllt ar gyfer y cyfrif – sef y ‘person cyswllt cofrestredig’
- chi fydd yn gyfrifol am reoli’r cyfrif nes bydd eich plentyn yn 16
- gallwch newid i gyfrif neu ddarparwr arall unrhyw bryd
Os na fyddwch yn agor cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant cyn y dyddiad y daw’r daleb i ben, bydd Cyllid a Thollau EM yn agor un ar ran eich plentyn. Cyfrif a elwir yn gyfrif ‘Rhanddeiliaid’ fydd hwn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y math hwn o gyfrif drwy ddilyn y ddolen ‘Cymorth wrth ddewis cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant’ isod.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn ysgrifennu at bwy bynnag sy’n cael Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn yn rhoi gwybod iddynt gyda pha ddarparwr y mae’r cyfrif wedi cael ei agor. Bydd hefyd yn rhoi gwybod i chi y bydd angen i rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn fod yn berson cyswllt cofrestredig ar gyfer y cyfrif.
Os mai chi fydd y person cyswllt cofrestredig, byddwch yn gallu newid i fath arall o gyfrif, neu newid darparwr, unrhyw bryd.
Mwy o ddolenni defnyddiol
Darparwyd gan the Child Trust Fund
