Ardystiadau a phwyntiau cosb :Cross Stitch – Moduro

Os ydych wedi’ch cael yn euog o drosedd moduro, gall y llysoedd roi dirwy i chi, ac ardystio’ch trwydded yrru gyda phwyntiau cosb. Rhaid i ardystiadau aros ar eich trwydded yrru am bedair neu un ar ddeg mlynedd, yn dibynnu ar y trosedd.

Mae i bob ardystiad ei god trosedd ei hun, a dyrennir ‘pwyntiau cosb’ iddo ar raddfa o un i un ar ddeg, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y trosedd. Diweddarir yr ardystiad (a’r pwyntiau cosb) ar eich cofnod chi, y gyrrwr, ac fe’i ysgrifennir ar eich trwydded yrru bapur neu ar bapur manylion eich trwydded yrru cerdyn-llun.

Rhaid i ardystiad aros ar eich trwydded yrru am y cyfnodau canlynol:

Un ar ddeg mlynedd o ddyddiad yr euogfarn

Os mai un o’r canlynol oedd y trosedd:

  • yfed a gyrru neu ddefnyddio cyffuriau a gyrru – rhoddir DR10, DR20, DR30 a DR80 ar y drwydded i ddangos hyn
  • achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau – rhoddir CD40, CD50 a CD60 ar y drwydded i ddangos hyn
  • achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal, ac yna methu â rhoi sampl i’w ddadansoddi – rhoddir CD70 ar y drwydded i ddangos hyn

Enghraifft: Dyddiad yr euogfarn yw 3 Rhagfyr 2002 – rhaid i’r ardystiad aros ar y drwydded hyd at 3 Rhagfyr 2013.

Pedair blynedd o ddyddiad yr euogfarn

Os mai un o’r canlynol oedd y trosedd:

  • gyrru byrbwyll/peryglus – rhoddir DD40, DD60 a DD80 ar y drwydded i ddangos hyn
  • troseddau sy’n arwain at waharddiad
  • gwaharddiad rhag dal trwydded yrru lawn nes caiff prawf gyrru ei basio

Enghraifft: Dyddiad yr euogfarn yw 28 Mai 2004 – rhaid i’r ardystiad aros ar y drwydded hyd at 28 Mai 2008.

Pedair blynedd o ddyddiad y trosedd

Ym mhob achos arall.

Enghraifft: Dyddiad y trosedd yw 10 Mehefin 2005 – rhaid i’r ardystiad aros ar y drwydded hyd at 10 Mehefin 2009.

Os byddwch yn cronni 12 neu ragor o bwyntiau cosb mewn cyfnod o dair blynedd, gallech gael eich gwahardd dan y drefn ‘pentyrru pwyntiau’. Bydd hyn yn cael ei ddangos gyda TT99 ar eich trwydded.

Anfonir gwybodaeth am eich hawl i yrru ac ardystiadau i’r llysoedd ac i’r heddlu os byddant yn gofyn amdanynt.

Bydd angen i chi gyflwyno’ch trwydded yrru i’r heddlu, y swyddfa cosbau sefydlog (FBO) neu pan fyddwch yn ymddangos yn y llys.

Os ydy’ch trwydded yrru ar goll, gallwch gael trwydded ddyblyg ar-lein, drwy’r post, neu drwy godi’r ffôn i ofyn am un.

Os nad yw’ch trwydded yrru’n cael ei dychwelyd ar ôl ei hardystio, bydd angen i chi gysylltu â’r swyddfa cosbau sefydlog neu’r llys a oedd yn gyfrifol am ardystio’ch trwydded yrru. Os ydych wedi newid eich cyfeiriad, neu os yw’ch trwydded wedi’i difrodi neu os yw’r man ardystio’n llawn, bydd y swyddfa cosbau sefydlog neu’r llys yn anfon eich trwydded i DVLA i’w diweddaru. Fe’i dychwelir atoch o fewn tair wythnos.

Cysylltwch â’r llys a ddyfarnodd eich bod yn euog am gyngor.