Atal y broses fabwysiadu :Cross Stitch – Rhieni

Os yw eich plentyn yn y broses o gael ei fabwysiadu a’ch bod chi ddim am i hyn ddigwydd, dylech geisio cyngor cyfreithiol ar unwaith. Gall yr asiantaeth fabwysiadu hefyd eich darparu â gwasanaethau gweithiwr cymorth annibynnol i’ch cynghori ynghylch eich hawliau a’ch cyfrifoldebau.

Mae’n bosib y gallwch gael cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol yn y llys gyda chymorth ariannol cyhoeddus. Gall twrnai roi cyngor i chi.

Gallwch geisio atal y broses fabwysiadu hyd at y pwynt lle bydd y darpar rieni mabwysiadol yn gwneud cais am orchymyn mabwysiadu. Os gwnewch hyn, bydd yn rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu wneud cais i’r llys am orchymyn lleoli. Bydd y gorchymyn hwn yn rhoi caniatâd i’r asiantaeth leoli eich plentyn ar gyfer cael ei fabwysiadu gan deulu newydd.

Cyn i’r llys allu penderfynu y gallai eich plentyn gael ei fabwysiadu gan deulu arall, mae’n rhaid i un o’r canlynol ddigwydd:

  • rydych chi’n caniatáu i’ch plentyn gael ei fabwysiadu
  • mae’r llys yn penderfynu parhau heb eich caniatâd chi (lle nad oes modd cael hyd i’r rhiant neu’r gwarcheidwad neu lle nad yw’n gallu rhoi ei ganiatâd, neu lle mae’n ofynnol hepgor y caniatâd er lles y plentyn)

Ni fydd y llys yn bwrw ymlaen â gorchymyn mabwysiadu heb eich caniatâd chi, oni bai ei fod yn teimlo bod hynny’n angenrheidiol, er enghraifft, os oes gan y llys bryderon ynghylch diogelwch a lles eich plentyn. Bydd y llys yn anfon y dystiolaeth mae wedi’i chael atoch chi, a dylech ei thrafod gyda’ch twrnai cyn gynted ag y gallwch.

Hefyd, bydd y llys yn gofyn i asiantaeth gweithwyr cymdeithasol annibynnol (a elwir hefyd yn warcheidwaid plant) ymweld â chi. Eu gwaith nhw yw:

  • diogelu lles eich plentyn ar ran y llys – bydd arnynt eisiau gwybod pam nad ydych am i’ch plentyn gael ei fabwysiadu
  • rhoi gwybod i’r llys am eich teimladau chi – mae’n bwysig bod y llys yn gwybod sut rydych chi’n teimlo am ddyfodol eich plentyn

Gallwch fynd i’r llys yn bersonol os ydych yn dymuno egluro pam nad ydych yn caniatáu i’ch plentyn gael ei fabwysiadu. Ni ellir gwneud gorchymyn mabwysiadu oni bai fod y llys yn sicr y byddai’r mabwysiadu er lles gorau eich plentyn. Bydd yn rhaid i’r llys bwyso a mesur eich teimladau chi wrth ddod at y penderfyniad hwnnw.

Bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn gallu eich cynghori ynghylch cysylltu â’ch plentyn. Yn ddelfrydol, gall pob parti gytuno ar drefniadau cysylltu – llythyrau, cardiau a chyfarfod mewn rhai achosion. Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd angen i’r rhain gael eu newid os yw amgylchiadau ac anghenion y plentyn yn newid. Pan fydd yn briodol, bydd y plentyn yn gallu gohebu yn ôl gyda chi drwy’r asiantaeth er mwyn rhoi gwybod i chi am ei gynnydd a’i ddatblygiad.

Os oes gennych chi gyfrifoldeb fel rhiant tuag at eich plentyn, bydd gofyn i chi roi caniatâd iddo gael ei fabwysiadu. Os nad ydych chi’n dymuno caniatáu i’r plentyn gael ei fabwysiadu, dylech fynd i weld eich twrnai.

Gall tad nad oedd yn briod â mam y plentyn, nac wedi’i enwi ar y dystysgrif geni pan gofrestrwyd genedigaeth y plentyn, wneud cais i’r llys am Orchymyn Cyfrifoldeb Rhiant. Bydd y gorchymyn hwn yn golygu y bydd yn cael ei gydnabod yn gyfreithiol fel tad y plentyn a bydd yn rhoi cyfrifoldeb fel rhiant iddo.