Beth sy'n digwydd ar ol i chi roi gwybod i DVLA am eich cyflwr iechyd :Cross Stitch – Moduro

Ar ôl dweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am eich cyflwr meddygol neu’ch anabledd, bydd cynghorwyr meddygol DVLA yn penderfynu a ellir cyhoeddi trwydded. Yma cewch wybod beth sy’n digwydd ar ôl i chi ddweud wrth DVLA am eich cyflwr iechyd, a sut y byddant yn gwneud penderfyniad.
Mae’r holiadur meddygol y byddwch yn ei ddefnyddio i roi gwybod i DVLA yn eich galluogi i ddarparu manylion penodol am eich cyflwr meddygol neu’ch anabledd. Mae’r holiadur hefyd yn gofyn i chi roi caniatâd i gynghorydd meddygol DVLA ofyn am wybodaeth feddygol amdanoch gan eich meddyg. Bydd DVLA yn ceisio gwneud penderfyniad ar sail yr wybodaeth a roddwch.
Fodd bynnag, os bydd angen rhagor o wybodaeth, gall y cynghorydd meddygol wneud y canlynol:
- cysylltu â’ch meddyg neu’ch ymgynghorydd
- trefnu eich bod yn cael archwiliad gan swyddog meddygol a benodir yn lleol, neu gan ymgynghorydd neu arbenigwr lleol
- gofyn i chi gael asesiad gyrru, prawf llygaid neu brawf gyrru
Bydd DVLA yn ceisio cwblhau’r ymholiadau cyn gynted â phosib. Bydd yr amser y bydd DVLA yn ei dreulio ar eich ymholiad meddygol chi yn dibynnu ar y cyflwr meddygol sydd gennych ac ar yr wybodaeth y mae angen i DVLA ei chasglu. Os gellir gwneud penderfyniad ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd gennych chi’n wreiddiol, bydd DVLA yn ceisio gwneud penderfyniad cyn pen tair wythnos.
Os bydd angen mwy o wybodaeth ar DVLA am eich cyflogwr meddygol, byddant yn ceisio gwneud penderfyniad o fewn 90 diwrnod gwaith.
Er mwyn gwneud hyn, mae’n bosib y bydd angen iddynt gael rhagor o wybodaeth gan y canlynol:
- chi
- eich meddyg
- ffynonellau eraill
Pan fydd y cynghorydd meddygol yn fodlon bod ganddo’r holl wybodaeth feddygol berthnasol, bydd yn gwneud penderfyniad ynghylch eich trwydded yrru. Bydd yn defnyddio’r safonau meddygol ar gyfer ffitrwydd i yrru i’w helpu i benderfynu.
Dyma’r penderfyniadau y gellir eu gwneud:
- efallai y cewch gadw eich trwydded neu y rhoddir trwydded yrru newydd i chi
- efallai y rhoddir trwydded yrru i chi am gyfnod o flwyddyn, am ddwy flynedd neu am dair blynedd os bydd y cynghorydd meddygol yn penderfynu y bydd angen adolygu eich iechyd yn y dyfodol
- efallai y rhoddir trwydded yrru i chi sy’n nodi bod angen gosod teclynnau rheoli arbennig ar y cerbyd rydych yn ei yrru i’ch galluogi i oresgyn effeithiau anabledd corfforol
- bydd DVLA yn dweud wrthych am roi’r gorau i yrru os bydd yr ymholiadau meddygol yn cadarnhau nad ydych yn ffit i yrru nes bydd eich cyflwr yn gwella
Os caiff eich trwydded yrru ei diddymu neu ei gwrthod gan gynghorydd meddygol yn DVLA:
- cewch eglurhad meddygol ynghylch pam y daethpwyd i’r penderfyniad hwn (lle bynnag y bo’n bosib, bydd DVLA yn dweud wrthych pryd y gallwch wneud cais i gael eich trwydded yn ôl)
- cewch hysbysiad yn egluro eich hawl i apelio i Lys Ynadon os ydych chi’n byw yng Nghymru neu yn Lloegr, neu i Lys y Siryf os ydych chi’n byw yn yr Alban
