Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (clefydau a byddardod) :Cross Stitch – Arian, treth a budd-daliadau

Os ydych yn sâl neu’n anabl o ganlyniad i glefyd a achoswyd gan fathau penodol o waith, gallech wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (clefydau). Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.

Gallwch wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (clefydau) os oeddech wedi eich cyflogi mewn swydd a achosodd eich clefyd. Mae’r cynllun yn berthnasol i dros 70 o glefydau, gan gynnwys:

  • clefyd a achoswyd drwy weithio ag asbestos
  • asthma
  • emffysema neu froncitis cronig
  • byddardod
  • clefyd y llwch (gan gynnwys silicosis ac asbestosis)
  • osteoarthritis y pen-glin
  • clefyd A11 rhagnodedig (a elwir cynt yn glefyd bys gwyn dirgrynol)

Gallwch gael rhestr lawn o afiechydon gan eich canolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ranbarthol.

Newidiadau diweddar

Ers 30 Mawrth 2012 mae pobl sydd ag osteoarthritis yn y pen-glin a oedd yn bennaf yn gweithio yn gosod carpedi neu loriau wedi bod yn gymwys i wneud cais. Mae’n rhaid iddynt fod wedi bod yn gwneud y gwaith hwn am 20 mlynedd neu fwy.

O 1 Awst 2012, os oes gennych ganser ar yr ysgyfaint a’ch bod yn gweithio’n bennaf fel gweithiwr ffwrn golosg, gallech fod yn gymwys i wneud cais. Mae’n rhaid i chi wedi gweithio am o leiaf 5 mlynedd mewn gwaith popty uchaf, neu o leiaf 15 mlynedd mewn gwaith popty arall. Os ydych wedi gweithio llai o flynyddoedd ar y ddau fath o waith, yna gall yr amser a dreulir ar y ddau gael eu hychwanegu at ei gilydd i’ch helpu fod yn gymwys.

I gael mwy o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â’ch canolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ranbarthol.

Ni allwch wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol os oeddech yn hunangyflogedig yn y gwaith a achosodd eich clefyd.

Bydd eich amgylchiadau unigol, gan gynnwys eich oedran a difrifoldeb eich anabledd, yn effeithio ar lefel y budd-dal a gewch. Asesir hyn gan feddyg ar raddfa o un i 100 y cant. Ar gyfer rhai clefydau’r ysgyfaint, telir ar gyfradd 100 y cant o ddechrau eich cais.

Arweiniad yn unig yw’r holl symiau hyn:

100% £158.10 £96.90
90% £142.29 £87.21
80% £126.48 £77.52
70% £110.67 £67.83
60% £94.86 £58.14
50% £79.05 £48.45
40% £63.24 £38.76
30% £47.43 £29.07
20% £31.62 £19.38

Os ydych yn cael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, mae’n bosibl y bydd hyn yn effeithio ar fudd-daliadau eraill rydych yn eu cael sy’n dibynnu ar faint o arian sydd gennych yn dod i mewn.

Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, neu unrhyw fath arall o fudd-dal am eich bod ar incwm isel, cysylltwch â’r swyddfa sy’n delio â’ch cais er mwyn cael rhagor o wybodaeth.

Mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â’r swyddfa sy’n delio â’ch taliadau os byddwch chi neu rywun rydych yn hawlio drostynt:

  • yn mynd i’r ysbyty neu’n gadael yr ysbyty
  • yn mynd i gartref gofal neu’n gadael cartref gofal
  • yn mynd i fyw dramor neu’n ymweld â gwlad dramor

Gan amlaf, byddwch chi neu’r person rydych yn gofalu amdano yn parhau i gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol – hyd yn oed os byddwch yn mynd dramor am byth.

Nid yw Lwfans Enillion Is yn daladwy os symudwch dramor yn barhaol.

Gall y swyddfa sy’n delio â’ch taliad roi rhagor o wybodaeth i chi.

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, gallech hawlio budd-daliadau eraill yn lle neu yn ogystal â Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (clefydau).

Lwfans Gweini Cyson

Gallwch hawlio am glefydau y bu iddynt ddechrau cyn 1 Hydref 1990, lle bydd asesiad yn penderfynu bod gennych anabledd 100 y cant a bod arnoch angen gofal a sylw dyddiol.

Bydd cyfradd y Lwfans Gweini Cyson a delir i chi yn seiliedig ar asesiad o’ch anghenion.

Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol

Gallwch hawlio £63.30 a delir yn ychwanegol at gyfraddau’r Lwfans Gweini Cyson, os cewch eich asesu ar gyfradd ganolradd neu eithriadol y Lwfans Gweini Cyson a bod arnoch angen gofal a sylw cyson a pharhaus.

Lwfans Enillion Is

Mae’n bosibl y cewch Lwfans Enillion Is os yw eich enillion presennol, neu’ch enillion mewn swydd y tybir y gallech chi ei gwneud, yn is na’r enillion presennol yn eich swydd reolaidd flaenorol.

Dim ond ar gyfer ceisiadau’n ymwneud â chlefydau diwydiannol y bu iddynt ddigwydd yn gyntaf cyn 1 Hydref 1990 y cewch chi Lwfans Enillion Is. Y gyfradd wythnosol uchaf yw £63.24.

Lwfans Ymddeol

Bydd Lwfans Ymddeol yn disodli Lwfans Enillion Is pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Efallai y byddwch yn gymwys am y gyfradd wythnosol uchaf o £15.81.

Cysylltiadau defnyddiol