Budd-daliadau a chymorth wrth chwilio am waith :Cross Stitch – Arian, treth a budd-daliadau
Os ydych yn ddi-waith ac ar gael i weithio, mae’n bosibl y gallwch gael Lwfans Ceisio Gwaith a budd-daliadau eraill. Gall y Ganolfan Byd Gwaith roi help a chymorth i chi hefyd wrth i chi chwilio am swydd. Cael gwybod mwy, gan gynnwys sut i gael cyngor am fudd-daliadau.
Cynghorydd budd-daliadau
Defnyddiwch y cynghorydd budd-daliadau ar-lein i gael amcangyfrif o’r budd-daliadau y gallech eu cael. Gallwch hefyd gael gwybod sut y gall newid yn eich amgylchiadau effeithio ar eich budd-daliadau. Mae newid yn eich amgylchiadau yn cynnwys dechrau gwaith neu weithio am fwy o oriau.
Lwfans Ceisio Gwaith
I gael gwybod am Lwfans Ceisio Gwaith, pwy sy’n gallu ei gael a sut i’w hawlio ar-lein ewch i Lwfans Ceisio Gwaith.
Cyfweliad ceisiwr gwaith newydd
Pan fyddwch yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, bydd angen i chi ddod i gyfweliad yn y Ganolfan Gwaith er mwyn nodi sut y gallwch wella eich cyfleoedd o ddod o hyd i waith. Gelwir hwn yn ‘gyfweliad ceisiwr gwaith newydd’.
Bydd ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith yn llunio cytundeb â chi o ran yr hyn y mae angen i chi ei wneud i wella’ch cyfleoedd o ddod o hyd i waith. Byddant hefyd yn dweud wrthych am yr help a all fod ar gael i chi, fel:
- help arbenigol gyda phethau fel llunio CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau, magu hyder a sgiliau gwaith
- help i chwilio am waith os nad ydych wedi cael profiad o chwilio am waith ers cryn dipyn o amser
- help gyda darllen, mathemateg neu’r iaith Saesneg
- gwybodaeth am wella eich sgiliau er mwyn bod yn addas ar gyfer y mathau o swyddi sydd ar gael yn lleol
Mae’r gefnogaeth hon yn dibynnu ar eich amgylchiadau a beth sydd ar gael yn eich ardal. Yn y cyfweliad ceisiwr gwaith newydd bydd ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith yn dod i gytundeb â chi ynghylch y canlynol:
- beth sydd angen i chi ei wneud i ddod o hyd i waith
- y newidiadau y gallai fod angen i chi eu gwneud i wella’ch cyfleoedd o lwyddo
- unrhyw help ychwanegol y gallai fod ei angen arnoch
Cofnodir hyn ar eich Cytundeb Ceisio Gwaith.
Mae eich Cytundeb Ceisio Gwaith neu gynllun gweithredu yn gofnod o’r hyn rydych chi a’ch ymgynghorydd wedi cytuno arno yn ystod eich cyfweliad ceisiwr gwaith newydd. Mae hyn yn cynnwys beth sydd angen i chi ei wneud, er mwyn parhau i dderbyn eich budd-dal.
Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, bydd angen i chi ddangos yr hyn rydych wedi bod yn ei wneud i chwilio am waith.
Mae’r Dyddiadur Chwiliad Gwaith (ES4JPW) yn declyn defnyddiol i gofnodi’r camau rydych wedi bod yn eu cymryd i chwilio am waith. Gallwch lawrlwytho copi o’r ES4JPW drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol.
Er mwyn i chi gael yr help sydd ei angen arnoch i wella’ch cyfleoedd o ddod o hyd i waith, gallech gael eich gwahodd i gyfweliadau ychwanegol ag ymgynghorydd.
Yn y cyfweliadau hyn bydd yr ymgynghorydd yn adolygu cytundebau blaenorol a thrafod unrhyw gamau i’ch helpu i wella eich cyfleoedd o ddod o hyd i waith. Byddant hefyd yn dweud wrthych am unrhyw gymorth ychwanegol y gallech ei gael. Gall hyn gynnwys y canlynol:
Cymorth ychwanegol gan ymgynghorydd
Er mwyn eich helpu gyda’ch chwiliad gwaith, gall ymgynghorydd benderfynu treulio amser ychwanegol gyda chi ar sail un i un.
Profiad gwaith gwirfoddol
Mae hyn ar gyfer unrhyw un rhwng 16 a 24 oed sy’n cael Lwfans Ceisio Gwaith. Mae’n rhoi’r cyfle i chi gymryd rhan mewn lleoliad gwaith gyda chyflogwr go iawn. Gallai fod yn ddefnyddiol os nad oes gennych lawer o brofiad gwaith diweddar neu ddim o gwbl.
Y Rhaglen Waith
Gall y Rhaglen Waith eich helpu i baratoi ar gyfer gwaith, dod o hyd i waith ac aros mewn gwaith. Cewch eich atgyfeirio i’r Rhaglen Waith ar yr adeg fwyaf priodol yn eich cais am fudd-dal.
Pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith, bydd rhai o’ch budd-daliadau yn parhau am gyfnod byr. Efallai y gallwch gael budd-daliadau a chymorth arall unwaith y byddwch yn gweithio. Gweler ‘Budd-daliadau a help wrth ddychwelyd i’r gwaith’ i ddysgu mwy.
