Budd-daliadau myfyrwyr sydd ar incwm isel :Cross Stitch – Arian, treth a budd-daliadau

Gall myfyrwyr rhan-amser ar incwm isel a grwpiau penodol o fyfyrwyr amser llawn fod yn gymwys i gael budd-daliadau. Mae’r rhain yn cynnwys Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor. Yma cewch wybod beth y gallech ei gael.

Mae budd-daliadau i fyfyrwyr yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol megis eich incwm ac unrhyw gynilion sydd gennych. Efallai na fyddwch yn gallu cael budd-daliadau os yw’r incwm a gewch chi drwy gyllid myfyrwyr yn rhy uchel.

Os ydych yn y brifysgol neu goleg yn barod, bydd cynghorwr myfyriwr yn gallu eich helpu i weithio allan os ydych yn gymwys am unrhyw fudd-daliadau.

Nad yw’r rhan fwyaf o fyfyrwyr amser llawn yn gallu hawlio budd-daliadau ar sail incwm, efallai y gallwch hawlio dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os ydych chi’n rhiant sengl
  • os oes gennych chi bartner sydd hefyd yn fyfyriwr – ac mae un neu’r ddau ohonoch yn gyfrifol am blentyn
  • os oes gennych anabledd, a’ch bod yn gymwys i gael y Premiwm Anabledd, premiwm anabledd difrifol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm

Os oes gennych bartner nad yw’n fyfyriwr, ond yn gymwys i gael unrhyw un o’r budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm, caiff eich partner wneud cais ar ran y ddau ohonoch.

Gall myfyrwyr rhan-amser wneud cais am fudd-daliadau ar sail incwm os ydynt ar incwm isel ac yn bodloni’r amodau perthnasol.

Os ydych chi’n astudio amser llawn, mae’n bosibl i chi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith dros wyliau’r haf os yw yn o’r canlynol yn berthnasol:

  • os ydych chi’n rhiant sengl sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc
  • os oes gennych chi bartner sydd hefyd yn fyfyriwr amser llawn, ac mae un neu’r ddau ohonoch yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc

Mae hefyd angen i chi fod ar gael ac wrthi’n chwilio am waith

Efallai y gallwch hefyd hawlio os ydych chi’n aros i fynd yn ôl ar gwrs, a chithau wedi cael seibiant y cytunwyd arno am gyfnod hyd at un flwyddyn oherwydd salwch neu gyfrifoldeb gofalu sydd erbyn hyn wedi dod i ben.

Os ydych chi’n astudio rhan-amser, mae’n bosibl i chi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith os ydych chi:

  • yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd
  • yn gallu gweithio
  • ar gael i weithio
  • wrthi’n chwilio am waith
  • o dan yr oed ymddeol

Fel arfer, mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn. Bydd yn rhaid i chi fod yn fodlon mynd am gyfweliad am swydd, hyd yn oed os bydd hyn yn golygu cymryd amser o’ch cwrs. Dylech fod yn barod hefyd i aildrefnu’ch oriau astudio i gyd-fynd â’ch swydd.

Ffynonellau o gymorth i bobl sydd â salwch neu anabledd sy’n effeithio ar eu gallu i weithio yw’r Budd-dâl Analluogrwydd a’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Os ydych yn hawlio un o’r budd-daliadau hyn eisoes, mae’n bosib i chi barhau i’w dderbyn fel myfyriwr.

Gweler ‘Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr anabl’ i gael mwy o wybodaeth. Gallwch hefyd gael cyngor gan Swyddog Anabledd neu Swyddog Gwasanaethau Myfyrwyr eich coleg neu’ch prifysgol.

Os ydych yn gweithio ac yn naill ai’n fyfyriwr amser llawn neu ran-amser, mae’n bosib y gallech hawlio Credyd Treth Gwaith.

Os ydych yn derbyn elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith, ni fyddwch yn gallu hawlio’r Grant Gofal plant hefyd.

Mae’n bosibl y gallwch chi hawlio Credyd Treth Plant os ydych chi’n fyfyriwr ac yn gyfrifol am blentyn. Gellir cael cyfraddau uwch os:

  • oes gennych fwy nag un plentyn
  • yw eich plentyn yn anabl

Mae’n bosibl y caiff myfyrwyr amser llawn eu heithrio rhag talu’r Dreth Cyngor, neu gallant fod yn gymwys i gael gostyngiad yn eu bil Treth Cyngor. Holwch eich awdurdod lleol sut i hawlio, yna gofynnwch i’ch coleg neu’ch prifysgol gyflwyno tystiolaeth o’ch statws myfyriwr amser llawn.

Gallwch gael gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael drwy gyllid myfyrwyr – gan gynnwys grantiau, benthyciadau myfyrwyr a bwrsarïau – drwy ddilyn y ddolen isod sy’n berthnasol i chi.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Cysylltiadau defnyddiol