Cael cymorth gyda chostau cyn oed ysgol :Cross Stitch – Rhieni

Mae gan bob plentyn tair a phedair oed yn Lloegr hawl i gael mynd i leoliad dysgu cynnar am ddim. Os ydych chi’n rhiant sy’n gweithio, yn rhiant unigol neu’n fyfyriwr, mae’n bosib bod gennych hawl i gael help ychwanegol gyda chostau dysgu cynnar a gofal plant.
Mae gan bob plentyn tair a phedair oed yr hawl i 15 awr o addysg meithrin am ddim bob wythnos am 38 wythnos o’r flwyddyn. Mae hyn yn gymwys nes ei fod yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol (y tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn bump). Gall addysg meithrin am ddim cael eu cynnal mewn meithrinfeydd, cylch chwarae, sefydliadau cyn ysgol neu gyda’u gwarchodwr plant.
Am fwy o wybodaeth ynghylch addysg meithrin am ddim yn eich ardal, cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ar yr ystod o wasanaethau plant, teuluoedd a phobl ifanc sydd ar gael yn eu hardal.
Os oes gennych blentyn, efallai y gallwch gael Credyd Treth Plant i helpu gyda chost gofalu amdanynt. Os ydych chi ar incwm isel, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith. Gallai hyn olygu eich bod chi’n cael hyd at 70 y cant o’ch costau gofal plant yn ôl – hyd at derfynau penodol. £122.50 yr wythnos ar gyfer un plentyn a £210 yr wythnos ar gyfer dau blentyn neu fwy yw’r terfynau. Rhaid i chi ddefnyddio darparwr gofal plant cofrestredig neu gymeradwy.
Os ydych chi mewn addysg bellach efallai y cewch gymorth ariannol ychwanegol. Gallai hwn ddod drwy’r Cynllun Gofal i Ddysgu (i fyfyrwyr dan 20 oed) neu drwy Gronfeydd Cefnogi Dysgwyr. Hefyd, ceir cynllun sy’n darparu cymorth gyda chostau gofal plant i fyfyrwyr chweched dosbarth 20 oed neu hŷn.
Fel myfyriwr addysg uwch, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ychwanegol ar ben unrhyw grantiau neu fenthyciadau myfyrwyr safonol a gewch. Gallai hyn gynnwys bwrsari, Credyd Treth Plant, Grant Gofal Plant neu gymorth gan y Gronfa Mynediad at Ddysgu.
Gallai arian fod ar gael hefyd drwy elusennau neu ymddiriedolaethau addysgol. Gofynnwch am gyngor gan eich cynghorydd lles myfyrwyr neu’ch awdurdod lleol.
