Canfod a dewis gofal plant :Cross Stitch – Rhieni

Y peth cyntaf y bydd angen i chi ei wneud wrth drefnu gofal plant yw cael gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal chi. Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i ddarparwyr lleol, bydd angen i chi wneud rhywfaint o waith ymchwil i weld pa un fydd yn gweddu orau i’ch plentyn. Yma, cewch gyngor ar y ffordd hawddaf o ddod o hyd i ddarparwr a dewis un.

  • diogelwch – beth sy’n digwydd mewn argyfwng?
  • ydy’r safle’n ddiogel (a fyddai’n bosib i bobl ddieithr gael mynediad)?
  • pa hyfforddiant a phrofiad sydd gan y gofalwyr?
  • sut mae’r darparwr yn rhoi gwybod am ddigwyddiadau diogelwch i rieni?
  • ydy’r gofalwyr yn deall cymorth cyntaf?
  • sut mae’r staff yn edrych ar ddisgyblaeth?
  • pa weithgareddau sy’n cael eu cynnig?
  • beth sy’n digwydd os ydych yn hwyr yn codi eich plentyn?
  • pa fwyd sy’n cael ei ddarparu (ydy o’n iach)?
  • gyda phwy y gallwch chi siarad am gynnydd eich plentyn?
  • beth sy’n digwydd os bydd eich plentyn yn mynd yn sâl?

Gallai hefyd fod yn syniad da i chi ofyn i weld polisi iechyd a diogelwch ysgrifenedig y darparwr (dylai pob darparwr gofal grŵp gael un).

Pan fyddwch wedi dewis darparwr, rhowch wybodaeth glir iddynt am hoff bethau a chas bethau eich plentyn ac am unrhyw broblemau iechyd sydd ganddynt. Ar ôl ychydig wythnosau, efallai y byddwch am fynd yn ôl i gael sgwrs â’r darparwr er mwyn cael gwybod sut mae’ch plentyn yn dod yn ei flaen.

Mae hefyd yn syniad da siarad â’ch plentyn er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn hapus ac yn gyfforddus gyda’r darparwr gofal.