Canllaw cyflym i lenwi'r ffurflen gais am basbort :Cross Stitch – Teithio a thrafnidiaeth

Ceir un ffurflen gais sy’n cael ei defnyddio ar gyfer pob math o geisiadau am basbort, heblaw pasbortau cyfunol. Ceir cyfarwyddiadau llawn gyda’r ffurflen. Canllaw cyflym yw hwn ar sut mae cael y ffurflen a dechrau arni. Gallwch hefyd lwytho’r llyfryn canllawiau sy’n dod gyda’r ffurflen bapur oddi ar y we.

Ar gyfer y ffurflen bapur, mae’n bwysig:

  • llenwi’r ffurflen mewn PRIFLYTHRENNAU gyda beiro ddu
  • ysgrifennu yn y blychau gwyn yn unig
  • gadael rhannau eraill y ffurflen yn wag (peidio â rhoi llinell drwyddynt na’u marcio fel arall)

Os byddwch yn gwneud mân gamgymeriadau gallwch roi llinell drwyddynt gyda beiro. Peidiwch â defnyddio hylif cywiro.

Adran 1 y ffurflen

Rhowch groes yn y blwch i ddangos am ba fath o basbort yr ydych yn gwneud cais. Yn y fan hon, gallwch hefyd wneud y pethau hyn:

  • gofyn i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ddychwelyd eich dogfennau ategol drwy ddefnyddio gwasanaeth Cludiant Diogel (Secure Delivery)
  • gwneud cais am basbort mawr 48 tudalen
  • gofyn am gael sticer Braille ar eich pasbort

Adran 2 y ffurflen

Ar gyfer eich manylion cyswllt a chyfeiriad y DU bresennol y mae’r adran hon. Dylech gynnwys rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost, os oes gennych un, rhag ofn y bydd angen i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau gysylltu â chi.

Adran 3 y ffurflen

Mae’r adran hon ar gyfer manylion am y pasbortau sydd gennych, oedd gennych neu yr ydych wedi eich cynnwys arnynt yn y gorffennol. Yn ogystal â hyn, dyma lle’r ydych yn rhoi manylion pasbort sydd ar goll neu wedi’i ddwyn.

Adran 4 y ffurflen

Ni ddylech lenwi’r adran hon oni bai fod y canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn oedolyn (16 oed neu hŷn) sy’n gwneud cais am eich pasbort cyntaf (neu’n blentyn sy’n debygol o gael ei ben-blwydd yn 16 oed cyn y gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ddarparu’r pasbort)
  • ar gyfer plentyn (dan 16 oed) y mae’r cais
  • cawsoch eich geni dramor
  • rydych yn gwneud cais i ymestyn eich pasbort neu am gael pasbort newydd yn lle un sydd ar goll, wedi’i ddwyn neu wedi’i ddifrodi

Adran 5 y ffurflen

Ni ddylech lenwi’r adran hon oni bai fod gennych dystysgrif cofrestru neu frodori’r Swyddfa Gartref.

Adran 6 y ffurflen

Ni ddylech lenwi’r adran hon oni bai fod y cais ar gyfer plentyn rhwng 12 a 15 oed.

Adran 7 y ffurflen

Gadewch yr adran hon yn wag.

Adran 8 y ffurflen

Defnyddiwch y lle gwag hwn i gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol yr ydych yn meddwl y dylai’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau wybod amdani, megis:

  • manylion cyfeiriad blaenorol neu gyfeiriad arall
  • y ffordd orau i gysylltu â chi os oes gennych nam ar eich golwg
  • eich bod eisoes wedi anfon ffurflen LS01 i roi gwybod i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau am basbort sydd ar goll neu wedi’i ddwyn

Adran 9 y ffurflen

Yn y fan hon, rhaid i chi lofnodi’ch cais a rhoi’r dyddiad arno.

Os byddwch yn llenwi’r ffurflen ar-lein, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n anfon y fersiwn wedi’i chwblhau atoch er mwyn i chi ei llofnodi yn adran 9 cyn ei phostio’n ôl iddynt.

Adran 10 y ffurflen

Dyma’r adran y mae’n rhaid i’r unigolyn yr ydych wedi gofyn iddo adlofnodi’ch ffurflen ei llenwi a’i llofnodi. Dim ond os ydych yn gwneud cais am un o’r canlynol y mae angen i chi gael rhywun i adlofnodi’ch cais:

  • pasbort cyntaf
  • pasbort newydd yn lle un sydd ar goll, wedi’i ddwyn neu wedi’i ddifrodi
  • adnewyddu pasbort plentyn sy’n 11 oed neu’n iau
  • adnewyddu pasbort pan mae eich ymddangosiad wedi newid i’r fath raddau y byddai’n anodd eich adnabod o’r llun yn eich pasbort diwethaf neu’ch pasbort cyfredol