Ceisiadau am basbort ac achosion o gipio plant :Cross Stitch – Teithio a thrafnidiaeth

Mae achosion o gipio plant yn brin, ond mae’n drosedd difrifol. Mae’n digwydd pan fydd rhywun (yn aml un rhiant, a hynny’n groes i ddymuniad y rhiant arall) yn mynd â phlentyn o’r wlad heb ganiatâd. Os yw’ch plentyn mewn perygl, efallai y gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau helpu.

Mae’n drosedd i unrhyw un sy’n ‘gysylltiedig â phlentyn’ dan 16 oed fynd â’r plentyn hwnnw, neu ei anfon, o’r DU heb ‘ganiatâd priodol’. Mae hyn wedi’i nodi yn Neddf Cipio Plant 1984.

Dyma eglurhad:

  • y bobl sy’n ‘gysylltiedig â’r plentyn’ yw rhieni’r plentyn, ei warcheidwad a phobl sydd â gorchymyn preswylio neu gyfrifoldeb rhiant
  • mae ‘caniatâd priodol’ yn golygu caniatâd y fam, y tad (os oes ganddo gyfrifoldeb rhiant), y gwarcheidwad ac unrhyw un sydd â gorchymyn preswylio neu gyfrifoldeb rhiant, neu ganiatâd y llys

Tadau a chyfrifoldeb rhiant

Yn gyffredinol, dim ond os yw’n briod â mam y plentyn, neu os yw wedi bod yn briod â mam y plentyn, y caiff tad y plentyn gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig. Fodd bynnag, mae gan dad gyfrifoldeb rhiant os yw’n cofrestru’r enedigaeth ar y cyd â mam y plentyn ar neu ar ôl:

  • 15 Ebrill 2002 yng Ngogledd Iwerddon
  • 1 Rhagfyr 2003 yng Nghymru a Lloegr
  • 4 Mai 2006 yn yr Alban

Efallai y caiff y tad gyfrifoldeb rhiant gan y llys neu drwy gytundeb ysgrifenedig â mam y plentyn.

Gallwch gael gwybodaeth fanylach am gyfrifoldeb rhiant a beth mae’n ei olygu yn ‘Hawliau a chyfrifoldebau rhieni’.

Gorchmynion preswylio

Caiff rhywun sydd â gorchymyn preswylio fynd â’r plentyn neu ei anfon o’r DU heb ganiatâd am hyd at fis ar y tro.

Rhoddir gorchmynion preswylio dan Adran 8 Deddf Plant 1989. Maent yn cadarnhau gyda phwy y mae plentyn yn cael byw. Caiff yr unigolyn a enwir yn y gorchymyn gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig os nad oedd â chyfrifoldeb rhiant yn barod, ond nid yw hynny’n golygu mai’r unigolyn hwnnw’n unig fydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Mae hyn yn golygu na chaiff wneud y canlynol:

  • mynd â’r plentyn o’r wlad am fwy na mis
  • newid enw’r plentyn heb ganiatâd pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant (fel yr eglurir uchod) neu orchymyn llys

Fel arfer, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn rhoi pasbort os yw’r cais yn cael ei wneud gan:

  • unrhyw un o’r rhieni (ar yr amod bod gan y rhiant sy’n gwneud y cais gyfrifoldeb rhiant, fel yr eglurwyd uchod)
  • person arall â chyfrifoldeb rhiant

Os oes gennych orchymyn llys sy’n gwahardd rhoi pasbort heb eich caniatâd chi neu ganiatâd y llys, dylech roi gwybod i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Yn yr achosion hyn, ni wnaiff y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau roi pasbort i’r plentyn os yw’r cais yn dod gan unrhyw un arall sy’n honni bod ganddo gyfrifoldeb rhiant.

Gellir defnyddio’r mathau canlynol o orchmynion llys:

  • gorchymyn camau gwaharddedig a wnaed dan Ddeddf Plant 1989 neu Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995
  • gwaharddiad a wnaed dan Ddeddf Plant (yr Alban) 1995
  • gorchymyn yn cadarnhau bod mynd â’r plentyn o’r wlad yn erbyn dymuniadau’r llys
  • gorchymyn preswylio dan unrhyw un o’r tair Deddf uchod, a wnaed o’ch plaid chi
  • gorchymyn yn rhoi cystodaeth o’r plentyn neu ofal neu reolaeth dros y plentyn i chi
  • gorchymyn yn datgan ei bod yn rhaid i chi roi eich caniatâd cyn y gellir mynd â’r plentyn o’r wlad
  • gorchymyn yn ategu eich gwrthwynebiad i roi pasbort i’ch plentyn neu i’ch plentyn adael y wlad

Os nad oes gennych orchymyn llys mae’n dal yn bosib i chi ofyn i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau beidio â rhoi pasbort i’ch plentyn. Rhaid i chi fod yn fam i’r plentyn. Mae’n rhaid i’r ddau bwynt canlynol hefyd fod yn wir:

  • nid ydych wedi bod yn briod â thad y plentyn
  • nid yw’r tad wedi sicrhau cyfrifoldeb rhiant

I ofyn i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau beidio â rhoi pasbort i’ch plentyn, yn gyntaf oll dylech ffonio’r Llinell Gyngor Pasbortau ar 0300 222 0000.

Gallwch gael gwybodaeth fanylach am achosion o gipio plant gan Reunite. Mae Reunite yn elusen sy’n rhoi cyngor ar ddelio ag achosion o blant yn cael eu cipio gan eu rhieni ac anghydfodau cystodaeth rhyngwladol. Maent hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfryngu i rieni. Gallwch ei ffonio ar 01162 556 234 rhwng 9.30 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Am fanylion cyswllt i’w defnyddio mewn argyfwng y tu allan i oriau swyddfa, ewch i’w gwefan.