Ceisiadau am basbort ac i adnewyddu eich pasbort os ydych chi dramor neu'n byw y tu allan i'r DU :Cross Stitch – Teithio a thrafnidiaeth

Pan fyddwch chi’n adnewyddu neu wneud cais am basbort y tu allan i’r DU, bydd eich cais yn cael ei brosesu dramor. Peidiwch ag anfon eich cais i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn y DU. Yma, cewch wybod sut i adnewyddu neu wneud cais am basbort o dramor neu tra byddwch yn ymweld â’r DU.

Nid yw’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn y DU yn prosesu ceisiadau am basbort sydd wedi cael eu hanfon o dramor. Os ydych y tu allan i’r DU, bydd eich cais am basbort yn cael ei brosesu dramor gan ganolfan brosesu pasbortau ranbarthol. Mae pob canolfan brosesu ranbarthol yn prosesu ceisiadau o wledydd penodol.

Cael gwybod i ble y dylech anfon eich cais am basbort

Gweler gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad i gael cyngor penodol am y wlad rydych ynddi ynghylch sut i adnewyddu neu wneud cais am eich pasbort.

Dewiswch y wlad rydych ynddi o’r rhestr A i Y ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad i gael:

  • manylion cyswllt y ganolfan brosesu pasbortau ranbarthol sy’n derbyn ceisiadau ar gyfer y wlad rydych ynddi
  • gwybodaeth am unrhyw ofynion lleol ar gyfer ceisiadau
  • ffioedd ac amseroedd prosesu lleol

Fel arfer bydd hi’n cymryd tua phedair wythnos i gyhoeddi pasbort dramor, ond bydd ceisiadau am basbort cyntaf oedolyn yn cymryd mwy o amser. Am geisiadau am basbort cyntaf oedolyn, efallai y gofynnir i chi gael cyfweliad.

Ni ddylech wneud dim cynlluniau teithio nes i chi gael eich pasbort newydd. Bydd angen i chi aros yn yr un wlad ag y gwnaethoch y cais i gasglu eich pasbort newydd. Os byddwch yn teithio ar basbort cenedl arall neu ddogfen argyfwng, fydd dim modd i chi gasglu eich pasbort Prydeinig newydd mewn gwlad arall.

Os nad ydych chi’n byw yn y DU, gallwch adnewyddu neu wneud cais am eich pasbort Prydeinig tra byddwch yn ymweld â’r DU.

Ymweliadau byr i’r DU – adnewyddu eich pasbort

Os byddwch chi’n aros yn y DU am dair wythnos neu lai, efallai y byddwch chi’n gallu adnewyddu eich pasbort drwy ddefnyddio gwasanaeth ceisiadau brys. Rhaid gwneud hyn yn bersonol. I ddefnyddio’r gwasanaethau hyn, bydd angen i chi:

  • drefnu apwyntiad mewn Swyddfa Basbort Ranbarthol yn y DU – gallwch wneud hyd at bythefnos ymlaen llaw
  • roi cyfeiriad yn y DU i le gellir danfon eich pasbort newydd – does dim modd anfon eich pasbort i gyfeiriad dramor

Gweler ‘Ceisiadau brys am basbort’ i gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau hyn, gan gynnwys ffioedd a sut i drefnu apwyntiad.

Dim ond i gyfeiriad yn y DU y gellir danfon eich pasbort Prydeinig – peidiwch â threfnu i fynd i deithio cyn iddo gyrraedd

Os ydych chi’n 16 oed neu drosodd a byth wedi cael pasbort Prydeinig eich hun, ni allwch wneud cais gan ddefnyddio gwasanaeth brys. Am eich pasbort oedolyn cyntaf, rhaid i chi wneud cais gan ddefnyddio’r broses gwneud cais safonol.

Bydd angen i chi fynd i gyfweliad a dylech ganiatáu o leiaf chwe wythnos ar gyfer y broses gwneud cais. Fodd bynnag, efallai y bydd angen wirio rhai o’r dogfennau ategol ar gyfer eich cais. Gall y broses gwneud cais gymryd mwy o amser os mae’r dogfennau hyn o dramor.

Os ydych o dan 16 oed, gallwch wneud cais am eich basbort plentyn cyntaf gan ddefnyddio’r gwasanaeth brys ‘wythnos Trac Cyflym’.

Dim ond i gyfeiriad yn y DU y gellir danfon eich pasbort Prydeinig. Peidiwch â threfnu i fynd i deithio cyn i’ch pasbort newydd gyrraedd.

Cysylltiadau defnyddiol