Cerbydau sydd yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth nad oes rhaid talu treth cerbyd arnynt :Cross Stitch – Moduro

Does dim rhaid talu treth cerbyd ar gerbydau a ddefnyddir yn unig at ddibenion amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth, ond, mae angen iddynt gael eu trethu’n flynyddol ac arddangos disg treth ‘dim treth’. Gellir trethu’r cerbydau hyn naill ai yn y dosbarth treth ‘peiriant amaethyddol’ neu’r dosbarth ‘defnydd cyfyngedig’.

Gellir trethu’r cerbydau canlynol yn y dosbarth treth ‘peiriant amaethyddol’:

Tractor amaethyddol

Tractor a ddefnyddir ar ffyrdd cyhoeddus ar gyfer y gweithgareddau canlynol yn unig:

  • at ddibenion amaethyddiaeth, garddwriaeth neu goedwigaeth
  • torri lleiniau glas sy’n ffinio â ffyrdd cyhoeddus
  • torri gwrychoedd neu goed sy’n ffinio â ffyrdd cyhoeddus neu’n ffinio â lleiniau glas sy’n ffinio â ffyrdd cyhoeddus

Tractor oddi ar y ffordd

Tractor nad yw’n dractor amaethyddol:

  • sydd wedi’i gynllunio a’i adeiladu i’w ddefnyddio’n bennaf oddi ar y ffordd
  • nad yw’n gallu, oherwydd ei wneuthuriad, fynd yn gyflymach na 25 milltir yr awr ar y gwastad dan ei bŵer ei hun

Peiriant amaethyddol

Peiriant:

  • sydd wedi’i gynllunio’n arbennig neu wedi’i addasu’n barhaol i gyflawni tasg amaethyddol ar y tir (ee dyrnwr medi)
  • nad yw’n gallu cael ei ddefnyddio ar y ffordd at unrhyw ddiben arall ac eithrio mynd yn ôl ac ymlaen i’r safle o weithredu amaethyddol

Cerbyd amaethyddol ysgafn

Cerbyd:

  • sy’n pwyso llai na 1,000kg
  • sydd wedi’i gynllunio a’i adeiladu i roi lle i’r gyrrwr yn unig eistedd
  • sydd wedi’i gynllunio a’i adeiladu i’w ddefnyddio’n bennaf oddi ar y ffordd
  • sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth, garddwriaeth neu goedwigaeth yn unig

Gallwch drethu’ch cerbyd yn y dosbarth treth ‘defnydd cyfyngedig’ os yw’n cael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddiaeth, garddwriaeth neu goedwigaeth yn unig ac:

  • ond yn cael ei ddefnyddio ar ffyrdd cyhoeddus wrth deithio rhwng dau ddarn o dir sy’n eiddo i’r un unigolyn
  • os nad yw’n teithio ddim pellach na 1.5 cilomedr ar ffyrdd cyhoeddus wrth deithio rhwng dau le o’r fath