Cost treth cerbyd :Cross Stitch – Moduro

Mae holl gyfraddau’r dreth cerbyd a ddangosir yn berthnasol i ddisgiau treth a geir ar ôl 1 Ebrill 2012. Gallwch gyfrifo cost treth cerbyd drwy ddilyn y dolenni isod.

Mae’r dosbarthiadau treth yn cynnwys cerbydau un-darn, cerbydau un-darn llygredd is, treth ôl-gerbyd, treth ôl-gerbyd llygredd is, cerbydau cymalog gydag uned tynnu dwy echel, cerbydau cymalog gydag uned tynnu dwy echel llygredd is, cerbydau cymalog gydag uned tynnu tair echel a cherbydau cymalog gydag uned tynnu tair echel llygredd is.

Cerbydau nwyddau trwm sydd wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon

Os oes gennych gerbyd nwyddau trwm sydd wedi’i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon ac rydych chi’n dymuno dod o hyd i’r gost treth cerbyd, dilynwch y ddolen isod.

Mae’r daflen ‘Cyfraddau treth cerbyd’ (V149) yn dangos cost treth cerbyd ar gyfer: cerbydau arbennig (nwyddau ar gyfer arddangos, cludo ar gyfer arddangos, wagenni gwaith, peiriannau cloddio, cerbydau rowlio ffordd, craeniau/pympiau symudol), cerbydau ynysoedd bach, treth ôl-gerbyd arbennig, cerbydau o fathau arbennig, cerbydau o fathau arbennig llygredd is, trafnidiaeth gyfun a thrafnidiaeth gyfun llygredd is.

Fe allwch chi ledaenu cost y dreth cerbyd drwy ddefnyddio cynllun cerdyn cynilo newydd Swyddfa’r Post®. Gallwch ddefnyddio’r cerdyn hwn i dalu’ch treth cerbyd yn llawn neu’n rhannol. (I gael rhagor o fanylion ynghylch y cynllun cerdyn cynilo newydd a diwedd y stampiau cynilo cysylltwch â Swyddfa’r Post.)