Cronfa Ymddiriedolaeth Plant – gwybodaeth sylfaenol :Cross Stitch – Arian, treth a budd-daliadau

Mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrif cynilo di-dreth a hirdymor ar gyfer plant a aned rhwng 1 Medi 2002 ac 2 Ionawr 2011. Yma cewch wybod a all eich plentyn gael cyfrif, sut mae’r cyfrif yn gweithio, a beth i’w wneud er mwyn dechrau arni.

Mae gan eich plentyn hawl i gyfrif os yw pob un o’r pwyntiau canlynol yn berthnasol:

  • ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2002 ac 2 Ionawr 2011
  • talwyd Budd-dal Plant i chi ar gyfer y plentyn hwnnw am o leiaf ddiwrnod cyn 4 Ionawr 2011
  • mae eich plentyn yn byw yn y DU
  • nid yw’ch plentyn yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau mewnfudo

Gallai eich plentyn fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau mewnfudo os cafodd ei eni y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd (gan gynnwys mewn canolfan filwrol) i rieni nad ydynt yn Brydeinig.

Os nad ydych chi eisoes wedi gwneud eich hawliad am Fudd-dal Plant, peidiwch ag oedi. Dim ond am hyd at dri mis y gellir ôl-ddyddio eich hawliad.

Os nad yw’ch plentyn yn gymwys ar gyfer cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, mae cyfrifon cynilo di-dreth eraill i gael, gan gynnwys y Cyfrif Cynilo Unigol i Bobl Iau (Junior ISAs). Mae hwn yn gyfrif cynilo hirdymor i blant dan 18 sydd heb gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Mae’n dal yn bosib y bydd gan eich plentyn hawl i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant os yw’r ddau bwynt canlynol yn berthnasol:

  • roedd eich plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol cyn 3 Ebrill 2011
  • mae eich plentyn yn bodloni amodau cymhwyso eraill ar gyfer cael cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Os dechreuodd yr awdurdod lleol ofalu am eich plentyn cyn i chi hawlio Budd-dal Plant, mae’n dal yn bosib i chi gael cyfrif, ar yr amod y bodlonir yr amodau cymhwyso eraill.

Rydych chi’n gweithio dramor ac wedi bod yn cael un o fudd-daliadau teulu Ewrop

Mae’n dal yn bosib y bydd gan eich plentyn hawl i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2002 ac 2 Ionawr 2011
  • mae eich plentyn yn byw yn y DU
  • talwyd budd-dal teulu gan wlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd i chi am o leiaf ddiwrnod cyn 4 Ionawr 2011
  • rydych chi’n gweithio yn y wlad honno yn yr Undeb Ewropeaidd

Fel rheol, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon taleb atoch ar gyfer pob plentyn sydd â hawl i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Byddwch yn defnyddio’r daleb i agor y cyfrif yn enw eich plentyn.

Gallai’r daleb fod yn werth £50 neu £250, gan ddibynnu ar pryd ganed eich plentyn a phryd daeth yn gymwys i gael cyfrif.

Mae’r arian yn y cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn eiddo i’r plentyn, ond ni fydd modd iddo dynnu arian o’r cyfrif nes bydd yn 18 oed.

O 1 Tachwedd 2011, gall rhieni, teulu a ffrindiau roi arian yn y cyfrif, hyd at drothwy o £3,600 y flwyddyn.

Bydd modd i arian ychwanegol gael ei dalu’n syth i’r cyfrif. Er enghraifft, os ydych chi ar incwm isel.

Nid oes angen talu treth ar incwm y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, nac ar unrhyw enillion sy’n deillio o’r gronfa. Ni fydd yr arian y bydd eich plentyn yn ei gael yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau neu gredydau treth a gewch chi.

Ar ôl i chi gael y daleb, bydd angen i chi fynd â hi at ddarparwr cyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant cymeradwy. Byddant yn agor y cyfrif i chi.

Os na fyddwch chi’n cael taleb cyn pen mis i dderbyn Budd-dal Plant, bydd modd i chi gael un arall yn ei lle fel rheol.

Ni fyddwch yn cael taleb os dechreuodd awdurdod lleol (neu ymddiriedolaeth iechyd yng Ngogledd Iwerddon) ofalu am eich plentyn cyn i chi ddechrau hawlio Budd-dal Plant. Bydd Cyllid a Thollau EM yn agor cyfrif i’ch plentyn yn lle hynny.

Os ydych chi wedi bod yn cael un o fudd-daliadau teulu Ewrop, ac yn meddwl bod gan eich plentyn hawl i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, cysylltwch â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant i wneud cais am y daleb.

Fe fydd y cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn enw eich plentyn, ond y person sy’n agor y cyfrif sy’n gyfrifol am ei reoli. Fe’i gelwir yn ‘berson cyswllt cofrestredig’.

Y person cyswllt cofrestredig:

  • yw’r un ddylai gadw’r holl waith papur
  • yw’r un sy’n rhoi gwybod am newidiadau penodol mewn amgylchiadau – er enghraifft, newid mewn cyfeiriad
  • yw’r unig un a all newid y cyfrif neu’r darparwr

Bydd eich plentyn yn dod yn berson cyswllt cofrestredig ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb am y cyfrif pan fydd yn 16 oed.

Gall y person cyswllt cofrestredig newid i wahanol fath o gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant neu i wahanol ddarparwr unrhyw bryd.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Darparwyd gan the Child Trust Fund