Cronfa Ymddiriedolaeth Plant: os yw'ch plentyn yn angheuol wael neu wedi marw :Cross Stitch – Arian, treth a budd-daliadau

Gallwch gymryd arian o gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant eich plentyn os yw’n angheuol wael. Os yw’ch plentyn wedi marw, bydd yr arian yng nghyfrif eich plentyn fel arfer yn mynd i bwy bynnag sy’n etifeddu ystâd y plentyn. Yma, cewch wybod beth fydd angen i chi ei wneud er mwyn cael yr arian.

Dim ond os yw’ch plentyn yn angheuol wael y gallwch gymryd arian o’r cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant cyn iddo gyrraedd 18 oed. Mae hyn yn golygu bod ganddo glefyd neu salwch sy’n mynd i waethygu, a’i fod yn debygol o farw o fewn chwe mis.

Pwy all dynnu’r arian o’r cyfrif?

Dim ond y person cyswllt cofrestredig all gymryd yr arian o’r cyfrif. Y person cyswllt cofrestredig yw’r prif bwynt cyswllt ar gyfer y cyfrif.

Os nad oes person cyswllt cofrestredig, bydd angen i bwy bynnag sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn wneud cais i’r darparwr er mwyn cael rheoli’r cyfrif.

Cysylltwch â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant er mwyn rhoi gwybod iddynt am y canlynol:

  • bod eich plentyn yn angheuol wael
  • eich bod am dynnu arian o’r cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth bod eich plentyn yn angheuol wael.

Os yw eich plentyn eisoes yn cael Lwfans Byw i’r Anabl oherwydd ei salwch, rhowch wybod i Linell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant pan fyddwch yn cysylltu â nhw.

Os nad yw’ch plentyn yn cael Lwfans Byw i’r Anabl, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ffurflen ichi i’ch meddyg ei llenwi a’i dychwelyd i Swyddfa’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi gwybod i chi a’r darparwr a allwch gymryd arian o’r cyfrif.

Bydd yr arian yn y cyfrif yn cael ei dalu i’r unigolyn sy’n ‘etifeddu’ ystâd y plentyn (ei eiddo a’i feddiannau). Yn aml, un o rieni’r plentyn fydd yr unigolyn hwn, ond os oedd yn briod, efallai mai gwraig neu ŵr y plentyn fydd yr unigolyn hwn.

Os nad oeddech chi’n gallu agor y cyfrif cyn i’ch plentyn farw, bydd Cyllid a Thollau EM yn dal yn talu’r hyn roedd gan eich plentyn yr hawl i’w gael.

Os ydych chi’n cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn sydd wedi marw, gallwch ddal ati i hawlio am amser byr. Gallai hyn helpu hefyd gydag unrhyw gostau ychwanegol y byddwch yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod hwn.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Darparwyd gan the Child Trust Fund