Cwestiynau Cyn Prynu
- CHWILIAD UWCH
- CHWILIAD RHAGDDODIAD
- CHWILIAD PRESENNOL
What are CURRENT style number plates? What are PREFIX style number plates?
Dyma’r cwestiynau a ofynnir amlaf am rifau cofrestru personol cyn prynu. Cliciwch ar y cwestiwn neu bwnc perthnasol o’r rhestr isod i gael gweld yr atebion i’r cwestiynau o ofynnir amlaf cyn prynu platiau rhif.
Beth yw cyfanswm cost prynu marc cofrestru gan y DVLA?
Mae’r holl rifau cofrestru ar-lein sydd i’w prynu ar unwaith yn cynnwys TAW a’r ffi ddyrannu £80. Mae hyn yn golygu nad oes dim byd arall i’w dalu ac eithrio costau gwneud y platiau eu hunain. DIM COSTAU CUDD!
Prisiau cadw yw’r prisiau a hysbysebir ar gyfer rhifau cofrestru sy’n cael eu cynnig i’w gwerthu yn ein hocsiynau / gwerthiannau ocsiwn ar-lein. Bydd y cynnig yn cychwyn o’r prisiau hyn ac nid ydynt yn cynnwys y ffi ddyrannu, TAW a phremiwm y prynwr.
Nid ydym yn cynnig unrhyw ffurf ar gynllun talu neu gynllun talu bob yn gyfran. Rhaid talu yn llawn.
A oes unrhyw gyfyngiadau ar fy newis o farc cofrestru?
Os ydych yn prynu marc cofrestru o un o ocsiynau’r DVLA yna bydd y Telerau Ac Amodau Gwerthu llawn yng nghatalog yr ocsiwn. Pan fyddwch yn prynu rhif cofrestru yn uniongyrchol gan ein busnes ar-lein mae’r Telerau ac Amodau Gwerthu llawn i’w gweld yn ystod y broses brynu Gweld y telerau ac amodau gwerthu hyn
Ai’r prisiau ar eich gwefan yw’r cyfanswm y bydd raid i mi ei dalu?
Ydyn, mae’r holl rifau cofrestru sydd ar gael i’w prynu ar unwaith yn cynnwys TAW a’r ffi ddyrannu £80. Mae hyn yn golygu nad oes dim byd arall i’w dalu ac eithrio costau gwneud y platiau eu hunain. DIM COSTAU CUDD! Prisiau cadw yw’r prisiau a hysbysebir ar gyfer rhifau cofrestru sydd ar werth yn ein hocsiynau/ocsiynau ar-lein. Bydd y cynigion yn cychwyn ar y prisiau hyn ac nid ydynt yn cynnwys y ffi ddyrannu, TAW a phremiwm y prynwr.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn prynu rhif cofrestru personol fel anrheg neu ar ran rhywun arall?
Os byddwch yn prynu rhif cofrestru personol y DVLA i, neu ar ran rhywun arall byddwch chi’n cael eich cofnodi fel y prynwr a’r unigolyn y prynwyd y rhif cofrestru ar ei gyfer yn cael ei gofnodi fel yr enwebai. Yna gellir rhoi’r marc cofrestru ar gerbyd a gofrestrwyd yn eich enw chi neu yn enw’r enwebai.
Os byddwch yn prynu rhif cofrestru ar ran cwmni fe fyddwn yn cofnodi enw’r cwmni fel y prynwr.
Beth yw’r Telerau a’r Amodau Gwerthu?
Os byddwch yn prynu marc cofrestru yn un o ocsiynau’r DVLA yna bydd Amodau a Thelerau Gwerthu llawn yng nghatalog yr ocsiwn. Wrth brynu rhif cofrestru yn uniongyrchol gan ein busnes ar-lein gellir gweld yr amodau a’r telerau yn llawn yn ystod y broses brynu.
Gweld yr amodau a thelerau gwerthu
Beth os wyf yn byw yng Ngogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw?
Sut gallaf brynu?
Dim ond ar-lein y gellir prynu’r rhifau cofrestru sydd ar gael yn uniongyrchol ar ein gwefan. Yn anffodus ni allwch brynu dros y ffn.
Ar l i chi ddod o hyd i’r rhif cofrestru yr ydych yn ei ddymuno trwy ein cyfleuster chwilio, cliciwch ar prynu yn awr a dilyn y cyfarwyddiadau i gwblhau eich pryniant.
Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich pryniant cyn pen 24 awr. Ar l i chi dderbyn hwn, byddwch yn medru gweld eich rhif cofrestru gan ddefnyddio eich cyfrif ar-lein.
Nid ydym yn cynnig unrhyw ffurf ar gynllun talu na thalu bob yn gyfran. Rhaid talu yn llawn.
