Cyfraddau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol :Cross Stitch – Cyflogaeth

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw’r isafswm y mae gan y rhan fwyaf o weithwyr yn y DU yr hawl iddo fesul awr. Cael gwybod beth yw’r cyfraddau cyfredol a ble i gael cymorth os ydych yn credu eich bod yn cael eich talu’n is na’r gyfradd isafswm cyflog.
Mae gwahanol lefelau’n perthyn i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gan ddibynnu ar eich oedran ac ai prentis ydych chi. Dyma’r cyfraddau cyfredol (o 1 Hydref 2011):
- £6.08 – y brif gyfradd ar gyfer gweithwyr 21 oed a hŷn
- £4.98 – y gyfradd ar gyfer gweithwyr 18-20 oed
- £3.68 – y gyfradd ar gyfer gweithwyr 16-17 oed sydd dros oedran gadael ysgol ond dan 18 oed
- £2.60 – y gyfradd i brentisiaid, ar gyfer prentisiaid sydd dan 19 oed neu’n 19 oed a hŷn ac ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth
Os ydych chi mewn oedran ysgol gorfodol nid oes gennych hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae rhai o’ch hawliau cyflogaeth yn wahanol hefyd.
Gellir gweld cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer blynyddoedd a fu ar wefan y Comisiwn Cyflogau Isel.
Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr yn y DU sydd dros oedran gadael ysgol hawl gyfreithiol i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf, ac mae’n rhaid i bob cyflogwr ei dalu i chi os oes gennych hawl iddo. Nid yw’n gwneud gwahaniaeth:
- p’un ai a ydych yn cael eich talu’n wythnosol neu’n fisol, gyda siec, gydag arian parod neu mewn unrhyw ffordd arall
- p’un ai a ydych yn gweithio’n llawn amser, yn rhan-amser neu’n dilyn unrhyw batrwm gweithio arall
- p’un ai a ydych yn gweithio yn eiddo eich cyflogwr neu yn rhywle arall
- beth yw maint eich cyflogwr
- ble rydych chi’n gweithio yn y DU
Mae gennych chi hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol hyd yn oed os byddwch chi’n llofnodi contract yn cytuno i gael cyfradd is. Mae hyn yn wir os ydych chi’n llofnodi o’ch gwirfodd neu am fod eich cyflogwr yn eich perswadio neu’n gwneud i chi lofnodi. Ni fydd y contract yn cael dim effaith gyfreithiol ac mae dal yn rhaid i chi gael y gyfradd briodol.
Os nad ydych yn siŵr a ddylech chi gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, darllenwch ‘Gweithwyr sydd â hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol’ a ‘Pwy sydd wedi’u heithrio rhag cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol’.
