Cymorth gyda ffeiliau PDF :Cross Stitch – Helpu
Gwybodaeth am ffeiliau PDF; beth ydyn nhw, sut i’w hagor a sut i’w creu
Fformat ffeil rhyngrwyd cyffredin yw’r fformat ffeil PDF (ystyr PDF yw Portable Document Format).
Fe’i defnyddir ar gyfer dosbarthu electronig gan ei fod yn cadw diwyg a golwg y ddogfen wreiddiol yn union, ynghyd â’r un ffontiau, lliwiau, delweddau a chynllun. Gellir ei ddefnyddio hefyd gyda llu o wahanol fathau o gyfrifiaduron a phorwyr. Dyma sy’n cael ei ddefnyddio fel arfer ar gyfer ffurflenni, taflenni a chyhoeddiadau’r llywodraeth.
I agor ffeil PDF, mae gennych ddau ddewis. Gallwch lwytho’r rhaglen Acrobat Reader a’i gosod ar eich cyfrifiadur. Mae’r rhaglen ar gael am ddim ar safle Adobe Acrobat. Oherwydd bod angen llawer o gof i’w llwytho i lawr – rhwng 8MB a 16MB – efallai y byddai’n haws cael copi o’r rhaglen ar un o’r CDs a ddosberthir gan gylchgronau cyfrifiadurol.
Yr ail ddewis yw defnyddio cyfrwng trosi ffeiliau PDF ar-lein. Gallwch fynd i wefan Adobe Acrobat, teipio cyfeiriad ffeil PDF a’i gael i drosi’r ffeil i fformat mwy darllenadwy tra’ch bod yn disgwyl. Neu gallwch e-bostio cyfeiriad y ffeil (neu’r ffeil ei hun) i Adobe, a byddant yn e-bostio’r ffeil wedi’i throsi yn ôl ichi. Efallai na fydd y fersiwn hwn o’r ffeil mor glir ei fformat â’r ffeil PDF wreiddiol.
Gallwch ffurfweddu’ch porwr gwe i agor ffeiliau PDF naill ai o fewn ffenest y porwr neu mewn ffenest Adobe Acrobat ar wahân. Mae cyfarwyddiadau manwl ar wefan Acrobat ynghylch sut i wneud hyn ar gyfer porwyr gwahanol.
Pan fyddwch yn agor ffeil PDF, bydd bar offer Acrobat yn ymddangos, gyda nifer o offer arno i’ch helpu chi i weld a chwilio’r ddogfen. Bydd gosod y llygoden dros yr eiconau, heb glicio, yn dweud beth y mae pob un yn ei wneud. Bydd y cyfleuster Chwilio yn chwilio’r ddogfen am air neu ymadrodd.
