Cyngor am ddiogelwch tân ar gyfer rhieni a gofalwyr plant :Cross Stitch – Rhieni

Y ffordd orau o addysgu plant am ddiogelwch tân yw drwy esiampl. Gadewch i’ch plant eich gweld yn bod yn ddoeth ac yn ofalus wrth goginio, gyda chanhwyllau, wrth ysmygu ac mewn cysylltiad â pheryglon tân posib eraill. Yma, cewch wybod mwy ynglŷn â siarad gyda phlant am dân – a’r hyn y dylen nhw ei wneud os oes tân.
Mae tân yn un o’r achosion mwyaf cyffredin o anafiadau damweiniol a marwolaethau ymysg plant. Mae plant yn naturiol yn cael eu denu at olau a chynhesrwydd tân, ond heb yr arweiniad priodol gall hyn droi’n hudoliaeth beryglus. Bydd yr awgrymiadau canlynol yn helpu i sicrhau nad yw eich plant yn dod i gysylltiad â pherygl.
I blant dan bum mlwydd oed, rhowch gyfarwyddiadau eglur ynghylch beth y dylen nhw ei wneud a beth na ddylen nhw ei wneud. Gyda phlant hŷn, mae’n well i chi hefyd egluro’r rhesymau pam. Mae’n debygol y bydd angen i chi siarad gyda nhw am ddiogelwch tân fwy nag unwaith, i sicrhau eu bod wedi cofio ac wedi deall yr hyn rydych chi wedi ei ddweud wrthynt. Dywedwch wrthyn nhw am wneud y canlynol:
- dweud wrth oedolyn os ydynt yn gweld matsis neu danwyr o amgylch y lle
- peidio byth â chwarae gyda matsis, tanwyr neu ganhwyllau sydd wedi’u cynnau
- peidio byth â chwarae yn agos i dân neu wresogydd, na gadael teganau nesaf atynt
- peidio â rhoi pethau ar ben gwresogyddion na goleuadau
- peidio â thynnu ar geblau trydanol na ffidlan gydag offer trydanol na socedi
- peidio byth â rhoi’r popty ymlaen na rhoi unrhyw beth ar ei ben
- peidio byth â chyffwrdd ag unrhyw sosbenni sydd ar y popty
Mae’n anodd iawn i blentyn gael sioc drydanol wrth chwarae gyda soced, felly ni ddylai bod angen i chi ddefnyddio gorchuddion socedi. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gall gorchudd rwystro plant ifanc rhag rhoi plygiau gwresogyddion neu offer trydanol eraill a allai ddechrau tân neu arwain at losgiadau yn y soced. Ni ddylech ddibynnu ar orchuddion socedi gan nad ydynt yn cael eu rheoleiddio ar gyfer diogelwch. Mae’n well o lawer sicrhau bod offer trydanol yn cael eu cadw’n ddiogel.
