Cynllunio a chofnodi sut rydych chi'n mynd ati i ddysgu gyrru :Cross Stitch – Moduro

Mae ymchwil yn dangos bod gyrwyr sydd wedi cael cyfuniad o hyfforddiant proffesiynol ac ymarfer preifat yn gwneud yn well mewn y prawf gyrru. Mae’r rheini sy’n pasio’u prawf gyrru, ar gyfartaledd, wedi cael oddeutu 47 awr o hyfforddiant proffesiynol a 20 awr o ymarfer preifat. Cewch wybod yma sut i ddefnyddio cofnod y gyrrwr i gynllunio’ch dysgu.
Dyma beth mae pob lefel yn ei olygu:
- lefel un – caiff y sgil ei gyflwyno
- lefel dau – gallwch ei gyflawni gyda chyfarwyddyd llawn
- lefel tri – gallwch ei gyflawni’n gywir pan fyddwch yn cael eich cymell
- lefel pedwar – nid oes angen i chi gael eich cymell prin ddim
- lefel pump – gallwch ei gyflawni drwy’r amser heb gael eich cymell
Dylai eich hyfforddwr roi ei lofnod a chofnodi’r dyddiad wrth lefelau un i bedwar, a dylai ychwanegu’r manylion llawn pan fyddwch yn cyrraedd lefel pump.
Bydd cofnod y gyrrwr yn eich atgoffa o’r hyn rydych chi’n ceisio’i gyflawni, sut mae gwneud hynny ac i ba raddau rydych chi’n llwyddo.
Mae’n bwysig eich bod yn ymarfer yr hyn rydych yn ei ddysgu yn ystod eich gwersi. Trafodwch gyda’ch hyfforddwr a’r sawl a fydd yn eich helpu i ymarfer, er mwyn penderfynu beth mae angen i chi ei wneud.
Ceisiwch ymarfer:
- ar gynifer o wahanol ffyrdd ag y bo modd
- mewn pob math o draffig a thywydd, hyd yn oed wedi iddi dywyllu
- ar ffyrdd deuol lle mae’r uchafswm cyflymder cenedlaethol yn berthnasol – efallai y bydd gofyn i chi yrru ar ffyrdd fel hyn yn ystod eich prawf
Dylech gadw cofnod o unrhyw ymarfer a wnewch rhwng gwersi ar wahanol ffyrdd ac yn ystod gwahanol dywydd. Bydd hyn yn eich helpu i gofio faint rydych chi wedi’i ymarfer mewn gwahanol dywydd.
Dylech chi hefyd gofnodi unrhyw bryderon sydd gennych ynglŷn â gyrru ac yna’u trafod gyda’ch hyfforddwr.

Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn eich annog i fynd â rhywun gyda chi ar eich prawf gyrru, sef:
- fel arfer, yr unigolyn sydd wedi eich dysgu i yrru
- ond gallai fod yn berthynas neu’n ffrind
- rhaid iddo fod yn hŷn nag 16 mlwydd oed
- ni chaiff gymryd unrhyw ran yn y prawf
- bydd yn gallu gweld sut byddwch chi’n perfformio yn ystod y prawf
I gael y budd gorau o hyn, gofynnwch i’ch hyfforddwr fynd gyda chi. Gall roi cyngor i chi am sut i wella eich sgiliau gyrru – p’un ai pasio ynteu fethu’r prawf fyddwch chi.
Os hoffech fynd â rhywun gyda chi, cofiwch drafod y peth â’r unigolyn hwnnw pan fyddwch chi’n paratoi ar gyfer eich prawf.
