Cynllunio'ch taith :Cross Stitch – Teithio a thrafnidiaeth

Mae Cynlluniwr Taith Cross & Stitch yn cynnig ystod lawn o wybodaeth a gwasanaethau cynllunio llwybrau ar gyfer pob math o daith. Mae’r Asiantaeth Priffyrdd yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am draffig yn fyw i chi, yn ogystal â rhybuddion a chrynodebau, a gwybodaeth am y tywydd a gwaith ffordd sydd ar y gweill ar draffyrdd a chefnffyrdd Lloegr. Gallwch gael yr wybodaeth y mae arnoch ei hangen cyn i chi ddechrau ar eich taith.

Mae Cynlluniwr Taith Cross & Stitch yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am draffig a chyfrifiannell CO2. Gall eich helpu i ddod o hyd i feysydd parcio, i gynllunio taith diwrnod neu i gymharu teithiau car â theithiau’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae gan Llinell Wybodaeth yr Asiantaeth Priffyrdd ar 0300 123 5000 gynghorwyr sydd ar gael i siarad â chi 24 awr y dydd. Gallant roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am amodau traffig neu ddigwyddiadau. Gallwch hefyd ffonio er mwyn rhoi gwybod am faterion megis malurion ar y draffordd.

Mae gwasanaeth ffôn awtomataidd Traffic England ar 08700 660 115 yn darparu gwybodaeth amser real am draffig. Mae’n gweithio drwy roi gorchmynion gan ddefnyddio’r bysellbad a’r llais, ac mae’n rhoi manylion am y canlynol:

  • gwybodaeth am draffig ar sail y ffordd, y rhanbarth, y dyddiad neu’r amser
  • digwyddiadau sydd i ddod a fydd yn cael effaith ar draffig

Mae’r prif wasanaethau testun ar y teledu i gyd yn cynnwys gwybodaeth am draffig. Edrychwch ar y canlynol:

Gall y tywydd gael effaith sylweddol ar hyd eich taith – y mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi fynd ar hyd ffordd arall, cychwyn yn gynt neu weithiau peidio â theithio o gwbl. I gael awgrymiadau ynghylch gyrru mewn tywydd garw, gweler ‘Diogelwch mewn tywydd eithafol’.

Er mwyn cynllunio taith ddiogel, gwnewch y canlynol:

  • cymerwch seibiant o 15 munud am bob dwy awr o yrru
  • sicrhewch fod eich cerbyd yn addas i fod ar y ffordd a bod ganddo deiar sbâr mewn cyflwr da
  • ewch ag eitemau gyda chi y gallwch eu defnyddio mewn argyfwng, rhag ofn y bydd y tywydd yn boeth iawn neu’n oer iawn (e.e. dŵr, dillad cynnes, diod boeth)
  • sicrhewch fod digon o danwydd yn eich cerbyd cyn i chi gychwyn
  • peidiwch â chychwyn ar daith hir os ydych eisoes wedi blino