Datblygu sgiliau mathemateg a rhif i blant dan bump :Cross Stitch – Rhieni

Gellir datblygu sgiliau rhif eich plentyn drwy gyfrwng straeon, caneuon, gemau a chwarae dychmygus. Mae sawl cyfle i ddysgu am fathemateg wrth wneud pethau bob dydd megis pwyso cynhwysion wrth goginio.

Mae mwy i fathemateg na dysgu sut i gyfri. Mae gallu mesur a gweld siapiau hefyd yn rhan bwysig o ddatblygiad eich plentyn.

Mae’n bosib y bydd eich plentyn yn dechrau adnabod rhifau’n ifanc iawn. Yna, byddan nhw’n dysgu sut i gyfri, ac yn defnyddio’u sgiliau gyda rhifau i ddatrys problemau.

Er mwyn helpu i ddatblygu sgiliau cyfri’ch plentyn, fe allech chi:

  • helpu eich plentyn i gyfri nwyddau yn eich cartref – tuniau yn y cwpwrdd, teganau yn y blwch teganau, neu bensiliau yn y drôr
  • canwch ganeuon a hwiangerddi cyfri i’ch plentyn fel ‘un bys, dau fys, tri bys yn dawnsio’
  • gofynnwch i’ch plentyn ddyfalu’r rhif nesaf wrth i amserydd y popty gyfri i lawr i ddim
  • tynnwch sylw at rifau ar bethau o’ch cwmpas – ar y drws ffrynt, ar gardiau pen-blwydd neu ar glociau
  • gofynnwch i’ch plentyn gasglu nifer penodol o bethau
  • chwaraewch gemau sy’n defnyddio deis megis nadroedd ac ysgolion

Bydd eich plentyn yn dysgu defnyddio geiriau’n naturiol i gymharu’r pethau maen nhw’n eu gweld, er enghraifft ‘mwy’ neu ‘lai’ a ‘thalach’ neu ‘fyrrach’. Yna, byddan nhw’n dysgu am y pethau sydd eu hangen i fesur pethau, megis clorian i bwyso, tâp mesur i fesur hyd a chlociau i fesur amser.

I ddatblygu sgiliau mesur eich plentyn, fe allech chi:

  • ymarfer mesur pethau yn eich cartref gyda thâp mesur ac ysgrifennu eu maint ar bapur
  • cymharu hyd dau beth
  • cymharu pethau i weld pa un yw’r trymaf
  • llenwi a gwagio pethau
  • pwyso cynhwysion wrth goginio