Dioddefwyr troseddau dramor :Cross Stitch – Teithio a thrafnidiaeth

Os byddwch yn teithio dramor a rhywun yn troseddu yn eich erbyn, gall Is-gennad Prydain yn y wlad honno roi cymorth a chefnogaeth i chi – beth bynnag fo’r trosedd. Cael gwybod beth y gall ac na all is-gennad ei wneud i chi.

Gall is-gennad:

  • gysylltu â’ch perthnasau a’ch ffrindiau a rhoi gwybod iddynt beth sydd wedi digwydd, os mai dyna’ch dymuniad
  • ofyn i ffrindiau a pherthnasau roi cymorth i chi gydag arian neu docynnau
  • roi gwybod i chi sut i drosglwyddo arian
  • roi cymorth i chi gysylltu gyda chyfreithwyr, cyfieithwyr a meddygon sy’n siarad Saesneg
  • yn y rhan fwyaf o swyddfeydd post (mewn argyfwng gwirioneddol yn unig), cael hyd at £100 i chi yn yr arian lleol yn gyfnewid am siec mewn punnoedd sterling gyda cherdyn gwarantu siec ddilys
  • fel dewis olaf, a dim ond os bodlonir meini prawf llym penodol, rhoi benthyciad i’w ad-dalu i chi er mwyn dychwelyd i’r DU

Ni all is-gennad:

  • ymchwilio i drosedd neu roi cyngor cyfreithiol
  • talu costau gwesty, costau cyfreithiol, costau meddygol a chostau teithio ar eich rhan
  • cael gwell triniaeth i chi mewn ysbytai nag sy’n cael ei rhoi i ddinasyddion lleol
  • ymyrryd mewn achosion llys

Gall unrhyw un bellach ffonio gwasanaethau argyfwng lleol unrhyw le yn yr Undeb Ewropeaidd drwy ddefnyddio’r rhif 112. Does dim angen i chi gofio gwahanol rifau argyfwng wrth deithio yn yr UE. Y cyfan sydd angen i chi ei gofio yw 112. Mewn rhai gwledydd, 112 yw’r prif rif argyfwng bellach ond mewn y rhan fwyaf o wledydd caiff ei ddefnyddio ochr yn ochr â rhifau argyfwng cenedlaethol eraill.