Diogelwch mewn tywydd eithafol :Cross Stitch – Teithio a thrafnidiaeth

Gall gyrru fod yn fwy anodd mewn tywydd eithafol ac ar ffyrdd rhewllyd, yn enwedig yn ystod y gaeaf. Drwy ddilyn cyngor yr Asiantaeth Priffyrdd, gallwch helpu i wneud eich taith yn fwy diogel a lleihau oedi i bawb.
Sicrhewch na chewch eich dal allan pan fydd tywydd garw’n dod.
Rhoi gwasanaeth i’ch cerbyd
Gallwch leihau’r siawns y bydd eich cerbyd yn torri lawr drwy roi gwasanaeth i’ch cerbyd yn rheolaidd.
Dylech hefyd wneud y pethau canlynol:
- gwneud yn siŵr bod digon o wrthrewydd a hylif golchi sgrin yn y car
- edrych am draul ar lafnau sychwyr (newidiwch nhw cyn gynted ag y byddant yn dechrau baeddu’r ffenestri yn hytrach na’u glanhau)
- sicrhau bod eich batri wedi’i wefru yn llawn (mae batris yn para rhwng dwy a phedair blynedd – newidiwch eich batri os nad yw bellach yn ddibynadwy)
- cadw gwasgedd y teiars ar y lefel a argymhellir gan y gwneuthurwr, a sicrhau bod gennych o leiaf 3 milimetr o wadn
- glanhau baw a hylifau sydd wedi cael eu chwistrellu ar eich car oddi ar lampau a sicrhewch fod pob bwlb yn gweithio
Cario pecyn argyfwng
Dylai pecyn sylfaenol gynnwys:
- map
- gwifrau cyswllt (jump leads) ar gyfer batri’r car
- tortsh
- triongl rhybuddio
- crafwr rhew a hylif meirioli (de-icer)
- pecyn cymorth cyntaf
- dillad cynnes
Os ydych chi’n cynllunio taith hir neu os yw rhagolygon y tywydd yn addo tywydd garw, efallai y byddwch am ychwanegu’r pethau canlynol:
- rhaw (os oes posibilrwydd o eira)
- pâr o esgidiau cynnes
- blanced
- unrhyw feddyginiaeth y mae angen i chi ei chymryd yn rheolaidd
- bwyd a fflasg o ddiod boeth
Byddai sbectol haul yn ddefnyddiol hefyd, oherwydd llacharedd yr eira.
Gofynnwch i’ch hun a oes wirioneddol angen teithio arnoch neu os allwch chi ohirio eich taith nes mae’r tywydd yn gwella.
Os oes yn rhaid i chi deithio, cynlluniwch eich taith yn ofalus.
Cyn cychwyn, gwnewch y canlynol:
- edrychwch ar wybodaeth fyw am draffig ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod neu drwy ffonio gwasanaeth gwybodaeth fyw am draffig yr Asiantaeth Priffyrdd ar 08700 660 115 (Lloegr yn unig) – byddwch yn barod i ohirio eich taith neu i newid eich llwybr os bydd angen
- cynlluniwch eich llwybr, gan gynnwys seibiau mewn ardaloedd gwasanaethau os ydych yn mynd ar daith hir ar y draffordd
Wrth i chi deithio, gwnewch y canlynol:
- gwrandewch ar newyddion teithio ac ar ragolygon y tywydd ar radio lleol (os oes gennych chi radio digidol, gwrandewch ar Traffic Radio)
- gallwch gael gwybod am gyflwr y ffordd o’ch blaen drwy ddefnyddio Pwyntiau Gwybodaeth am Draffig yr Asiantaeth Priffyrdd mewn ardaloedd gwasanaethau a lleoliadau eraill

Ar ffyrdd llithrig, gall gymryd hyd at ddeg gwaith yn fwy o amser i chi stopio – gyrrwch yn arafach ac yn ofalus, hyd yn oed os yw ffyrdd wedi cael eu graeanu
Pan fydd y tywydd yn arw iawn, dim ond os oes gwir angen gyrru arnoch y dylech wneud hynny – fel arall, efallai y byddai’n well os byddech yn gohirio eich taith nes bydd y tywydd yn gwella.
Hyd yn oed ar ôl i ffyrdd gael eu trin yn y gaeaf, mae’n bosib y bydd yr amgylchiadau gyrru yn parhau i fod yn heriol – yn enwedig os bydd risg uchel o rew. Cofiwch fod rhew yn ffurfio’n fwy rhwydd ar y canlynol:
- ffyrdd bryniog neu agored
- ffyrdd sy’n mynd dros bont neu o dan bont
- ffyrdd sy’n cael eu cysgodi gan goed neu adeiladau
Ni waeth pa mor ofalus rydych yn cynllunio eich taith, gall pethau fynd o chwith. Gall damwain neu dywydd gwael olygu bod ffordd wedi’i chau am sbel.
Os ydych chi ar ran o draffordd sydd wedi’i chau
Os ydych chi ar ran o draffordd sydd wedi’i chau, arhoswch yn y car a gwrandewch ar newyddion traffig. Mae’r Asiantaeth Priffyrdd yn rhoi’r newyddion diweddaraf i orsafoedd radio lleol. Gallwch ddod o hyd i newyddion traffig drwy bwyso ‘TA’ ar eich radio.
Os ydych chi mewn ciw ar y ffordd
Os ydych chi mewn ciw ar y ffordd, edrychwch ar yr arwyddion negeseuon electronig i gael cyfarwyddiadau a gwybodaeth amser real.
Os oes digwyddiad ar y ffordd
Os oes digwyddiad ar y ffordd sy’n golygu na all traffig symud, bydd Swyddogion Traffig yr Asiantaeth Priffyrdd neu staff yr Uned Cymorth adeg Digwyddiadau yn dod i’r fan i roi cynlluniau argyfwng ar waith. Dylech aros yn y car a dilyn eu cyfarwyddiadau.
