Dod yn yrrwr lori neu fws :Cross Stitch – Moduro

Er mwyn bod yn yrrwr lori neu fws, mae arnoch angen gwneud yn siŵr bod y drwydded gywir gennych chi ar gyfer y cerbyd dan sylw. Bydd hyn yn dibynnu ar bwysau eich cerbyd. Dyma’r hyn y mae arnoch angen ei wneud i fod yn yrrwr lori neu fws.
Bydd dal trwydded yrru bws neu lori yn caniatáu i chi weithio i gwmni neu sefydliad yn gyrru eich cerbyd yn lleol, yn genedlaethol neu ar draws Ewrop.
Beth y cewch ei wneud fel gyrrwr lori
Fel gyrrwr lori, cewch wneud y canlynol:
- danfon deunyddiau siop neu adeiladu (danfon i sawl lle)
- gyrru cynhwysydd blwch neu gerbydau â llenni ar yr ochrau
- gyrru tanceri sy’n cynnwys hylifau megis tanwydd neu laeth
- gyrru tanceri sy’n cynnwys powdrau megis sment neu flawd
- cludo da byw
- danfon nwyddau y rheolir eu tymheredd megis salad, blodau neu fwydydd wedi’u rhewi
Beth y cewch ei wneud fel gyrrwr bws moethus
Fel gyrrwr bws moethus, cewch yrru’n bell:
- tripiau dydd neu wasanaethau maes awyr
- cyrchfannau gwyliau yn Ewrop
Beth y cewch ei wneud fel gyrrwr bws
Fel gyrrwr bws, cewch yrru’n lleol, gwasanaethau wedi’u hamserlennu neu wasanaethau ysgol.
Dylai gyrrwr proffesiynol osod esiampl i yrwyr eraill. Dylech chi wneud yn siŵr bod y cerbyd yn cael ei yrru gyda chymaint o ddiogelwch, cwrteisi ac ystyriaeth â phosibl at bawb arall ar ffyrdd prysur heddiw.
Os byddwch yn colli eich hawl trwydded car unrhyw bryd, byddwch hefyd yn colli eich trwydded LGV neu PCV yn awtomatig.
