Dogfennau ategol ar gyfer pasbortau cyfunol :Cross Stitch – Teithio a thrafnidiaeth

I wneud cais am basbort cyfunol mae angen i chi ddarparu dogfennau ategol, yn ogystal â ffurflen gais. Mae dogfennau ategol yn cynnwys ffurflenni caniatâd rhieni wedi’u llofnodi ar gyfer pob plentyn neu unigolyn ifanc a llythyr cefnogi ar gyfer pob cais neu fudiad sy’n gysylltiedig.

Os yw rhieni’r plentyn yn briod

Caiff y naill riant neu’r llall lofnodi’r ffurflen.

Os yw rhieni’r plentyn bellach wedi ysgaru

Caiff y naill riant neu’r llall lofnodi’r ffurflen cyn belled â’u bod wedi bod yn briod naill ai:

  • pan aned y plentyn (neu, ar gyfer y rheini sy’n byw yn yr Alban, pan ddaeth y fam yn feichiog)
  • unrhyw adeg ar ôl genedigaeth y plentyn

Fodd bynnag, os mae llys wedi gwneud gorchymyn ynghylch cyfrifoldeb rhiant neu ynghylch rhoi pasbort i’r plentyn, mae hwn yn effeithio ar bwy y gall lofnodi’r ffurflen. Mae’n rhaid anfon unrhyw orchymyn fel hwn gyda’r cais.

Cofiwch, nid yw’r ffaith bod gan un rhiant orchymyn cystodaeth neu gytundeb cynhaliaeth yn golygu bod y rhiant arall yn colli cyfrifoldeb rhiant.

Os nad yw rhieni plentyn yn briod nac erioed wedi bod yn briod â’i gilydd

Caiff y fam lofnodi’r ffurflen.

Dim ond yn yr achosion canlynol y caiff y tad lofnodi’r ffurflen:

  • os oes ganddo gytundeb neu orchymyn cyfrifoldeb rhiant – rhaid anfon y ddogfen hon gyda’r cais
  • os yw ei enw ar y dystysgrif geni (rhaid anfon hon gyda’r cais) ac os cafodd yr enedigaeth ei chofrestru ar y cyd gan y ddau ohonoch ar ôl 15 Ebrill 2002 yng Ngogledd Iwerddon, ar ôl 1 Rhagfyr 2003 yng Nghymru a Lloegr neu ar ôl 4 Mai 2006 yn yr Alban

Nid yw’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn derbyn llungopïau o ddogfennau.

Os yw’r plentyn yn byw gyda gwarcheidwad cyfreithiol

Caiff y gwarcheidwad cyfreithiol lofnodi’r ffurflen.

Os yw’r plentyn yn byw gyda gofalwr maeth

Caiff y gofalwr maeth lofnodi’r ffurflen ond bydd ar y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau hefyd angen llythyr gan Reolwr yr Uned Gwasanaethau Cymdeithasol yn egluro amgylchiadau’r plentyn. Dylai’r llythyr nodi dan pa adran o’r Ddeddf Plant y mae’r plentyn mewn gofal.

Os yw’r plentyn dan ofal y gwasanaethau cymdeithasol

Caiff y gweithiwr cymdeithasol neu reolwr y cartref gofal lofnodi’r ffurflen ond bydd ar y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau hefyd angen llythyr gan Reolwr yr Uned Gwasanaethau Cymdeithasol yn egluro amgylchiadau’r plentyn. Dylai’r llythyr nodi dan pa adran o’r Ddeddf Plant y mae’r plentyn mewn gofal.

Bydd arnoch angen cerdyn-llun pasbort cyfunol ar gyfer pob plentyn neu unigolyn ifanc sy’n bwriadu teithio ar y pasbort cyfunol.

Gallwch archebu’r cardiau hyn gan Swyddfa Basbort Durham dros e-bost

[email protected]

neu drwy ffonio Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Rhaid llenwi pob cerdyn â manylion y plentyn, yn union fel yr ymddangosant ar y ffurflen gais. Dylid rhoi llun maint pasbort diweddar ar bob cerdyn hefyd.

O ran y lluniau:

  • dylai eu safon fod yn debyg i safon lluniau pasbort safonol
  • ni ddylent fod wedi’u defnyddio o’r blaen ar ddogfen arall
  • ni ddylent fod wedi’u lamineiddio
  • ni ddylent fod yn llungopïau

Gallwch ddefnyddio lluniau digidol neu luniau ysgol unigol ar gyfer pasbort cyfunol ar yr amod eu bod yn bodloni canllawiau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Allwch chi ddim defnyddio llun ysgol os yw’r gair ‘PROOF’ wedi’i ysgrifennu arno.

Dylai Arweinydd y Grŵp lenwi eu manylion eu hunain ac ardystio’r cardiau drwy’u llofnodi cyn cyflwyno’r ffurflen gais.

Rhaid i bob plentyn lofnodi eu cerdyn cyn teithio.

Ar gyfer pob cais am basbort cyfunol (nid ar gyfer pob unigolyn sy’n teithio), bydd angen i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau gael llythyr (ar bapur swyddogol) yn cadarnhau bod y daith wedi’i hawdurdodi a’i bod wedi cael caniatâd. Mae’n ofynnol bod llofnod gwreiddiol ar y llythyr (ni dderbynnir llofnod digidol na llofnod wedi’i lungopïo).

Os yw’ch grŵp yn cynnwys plant o fwy nag un mudiad, bydd ar y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau angen llythyr cefnogi gan bob mudiad. Mae’r ddolen isod yn dangos enghraifft o’r hyn y dylai llythyr cefnogi ei gynnwys.

Ni chaiff Arweinydd na Dirprwy Arweinydd y parti cefnogi’r cais.

Ysgolion Pennaeth, aelod o fwrdd y llywodraethwyr neu awdurdod addysg pob ysgol sy’n rhan o’r parti
Grwpiau sgowtiaid neu geidiaid Dylid darparu ‘Llythyr cyflwyno’ neu lythyr cefnogi gan y Comisiynydd Ardal/Sir Cynorthwyol neu gan Bencadlys y Gymdeithas
Clybiau pêl-droed neu rygbi Dylid darparu llythyr gan y gymdeithas bêl-droed leol neu gan gadeirydd neu ysgrifennydd y gynghrair
Clybiau nofio neu judo Dylid darparu llythyr o’r pencadlys cenedlaethol
Cerddorfeydd ieuenctid, corau ac ati Dylid darparu llythyr gan yr awdurdod addysg lleol neu gan y ficer os mai mudiad eglwysig ydynt
Cadetiaid yn y Fyddin neu Awyrlu Dylid darparu llythyr gan y prif swyddog neu gan yr awdurdod gwasanaethau
Clybiau neu clybiau ieuenctid Dylid darparu llythyr gan yr awdurdod lleol y cofrestrwyd ag ef neu gan y pencadlys cenedlaethol
Elusennau cofrestredig Dylid darparu llythyr gan y cyfarwyddwr neu gan unigolyn mewn sefyllfa debyg yn y mudiad

Os fydd grŵp o blant yn mynd dramor i berfformio at unrhyw ddiben (gan gynnwys i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon neu gystadleuaethau), rhaid i’r llythyr cefnogi ddweud:

  • bod holl aelodau’r parti yn amaturiaid
  • na fydd yr aelodau yn derbyn tâl