Dysgu cynnar am ddim i blant tair a phedair oed :Cross Stitch – Rhieni

Bydd dysgu cynnar am ddim yn rhoi’r dechrau gorau posib mewn bywyd i’ch plentyn. Drwy ddysgu a chwarae gyda phlant eraill mewn amgylchedd diogel a strwythuredig, byddant ar y blaen pan ddaw’n amser iddynt gychwyn yn yr ysgol.

Mae gan bob plentyn tair a phedair oed yr hawl i 15 awr o addysg feithrin am ddim bob wythnos am 38 wythnos o’r flwyddyn. Mae hyn yn gymwys nes ei fod yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol (y tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn bump). Mae llefydd addysg gynnar ar gael mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys dosbarthiadau ac ysgolion meithrin, canolfannau plant, meithrinfeydd dydd, cylchoedd chwarae a chyn ysgol neu mewn cartref ei warchodwr.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch addysg feithrin am ddim yn eich ardal chi, cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ynghylch yr ystod o wasanaethau i blant, deuluoedd a phobl ifanc sydd ar gael yn eich ardal chi.

Mae’r tabl isod yn dangos pryd y bydd eich plentyn yn gymwys i gael mynd i leoliad dysgu cynnar am ddim.

1 Medi yn dilyn eu trydydd pen-blwydd neu ddechrau tymor ysgol yr hydref*

1 Ionawr yn dilyn eu trydydd pen-blwydd neu ddechrau tymor ysgol y gwanwyn*

1 Ebrill yn dilyn eu trydydd pen-blwydd neu ddechrau tymor ysgol yr haf*

* Wedi’i seilio ar flwyddyn ysgol tri-tymor