Egluro'r prawf beic modur ymarferol :Cross Stitch – Moduro

Mae’r prawf beic modur ymarferol wedi’i rannu’n ddau fodiwl ar wahân – y modiwl oddi ar y ffordd a’r modiwl ar y ffordd. Er mwyn cael trwydded beic modur llawn, mae angen i chi basio’r ddau fodiwl. Yma cewch wybod beth sy’n digwydd yn ystod dau fodiwl y prawf.
Gadewch ddigon o amser rhwng y ddau fodiwl er mwyn osgoi colli’r ffi ar gyfer modiwl dau
Gallwch drefnu’r ddau fodiwl yr un pryd. Ond, bydd rhaid i chi basio modiwl un cyn y cewch roi cynnig ar fodiwl dau.
Os na fyddwch chi’n pasio modiwl un, bydd rhaid i chi aros tri diwrnod gwaith llawn cyn y cewch roi cynnig arall ar y modiwl.
Os ydych chi am ganslo prawf modiwl dau, bydd rhaid i chi roi tri diwrnod gwaith llawn o rybudd i’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA). Os na wnewch chi, byddwch yn colli eich ffi ar gyfer prawf modiwl dau. Dylech adael digon o amser rhwng y ddau fodiwl er mwyn osgoi colli’r ffi ar gyfer modiwl dau.
Os na fyddwch chi’n pasio modiwl dau, bydd rhaid i chi aros deg diwrnod gwaith llawn cyn y cewch roi cynnig arall ar y modiwl.
I gael gwybod sut mae trefnu a rheoli’ch apwyntiadau a ble y gallwch roi cynnig ar ddau fodiwl y prawf, cliciwch y ddolen isod.
Os nad ydych chi’n gwisgo’r dillad priodol:
- efallai na fydd eich prawf yn cael ei gynnal
- fe allech chi golli’ch ffi
Siaradwch â’ch hyfforddwr ynghylch dewis y dillad gorau y gallwch chi eu fforddio. Mae’n bwysig eich bod yn gwisgo’r dillad priodol bob amser:
- yn ystod eich hyfforddiant
- wrth sefyll eich profion
- ar ôl pasio’ch prawf
Os byddwch chi’n cyrraedd eich prawf ac nid ydych yn gwisgo’r dillad priodol:
- efallai na fydd eich prawf yn cael ei gynnal
- fe allech chi golli’ch ffi
Ar ddiwedd modiwl un, bydd yr arholwr yn dweud wrthych beth yw’r canlyniad ac yn rhoi adborth i chi. Os byddwch chi’n pasio, byddwch yn cael tystysgrif pasio modiwl un.
Os na ddewch chi â’r dogfennau cywir gyda chi:
- mae’n bosib na chewch sefyll eich prawf
- mae’n bosib y byddwch yn colli eich ffi
Beth sy’n digwydd yn ystod modiwl dau
Mae’r modiwl hwn yn cynnwys:
- prawf golwg
- cwestiynau am ddiogelwch a chydbwysedd
- yr elfen gyrru ar y ffordd
- adran gyrru’n annibynnol
Y prawf golwg
Bydd yr arholwr yn gofyn i chi ddarllen y plât rhif ar gerbyd sydd wedi parcio er mwyn profi eich golwg. Os byddwch yn methu’r prawf hwn, ni fydd eich prawf gyrru’n parhau.
Byddwch yn gyrru mewn amrywiaeth o amodau ffordd a thraffig. Gofynnir i chi wneud y canlynol:
- stopio’n arferol
- cychwyn ar ongl (cychwyn o’r tu ôl i gerbyd sydd wedi parcio)
- cychwyn ar allt (lle bo’n bosib)
Bydd yr arholwr yn defnyddio radio i roi cyfarwyddiadau i chi. Fel arfer, bydd yn eich dilyn ar feic modur.
Adran gyrru’n annibynnol y prawf gyrru
Bydd eich prawf gyrru’n cynnwys tua deg munud o yrru’n annibynnol. Pwrpas hyn yw asesu eich gallu i yrru’n ddiogel wrth wneud penderfyniadau’n annibynnol.
Ar ddiwedd modiwl dau, bydd yr arholwr yn dweud wrthych beth yw’r canlyniad ac yn rhoi adborth i chi. Os byddwch chi’n pasio, bydd yr arholwr yn egluro i chi sut mae cyfnewid eich trwydded dros dro am drwydded lawn.
Ar ddiwedd pob modiwl, bydd yr arholwr yn dweud wrthych a ydych wedi pasio ynteu fethu.
Y gwahanol fathau o gamgymeriadau y gellir eu nodi
Bydd tri math gwahanol o gamgymeriad yn cael eu nodi:
- camgymeriad peryglus – pan fyddwch yn rhoi eich hun, yr arholwr, y cyhoedd neu eiddo mewn perygl
- camgymeriad difrifol – pan fyddwch yn gwneud rhywbeth a allai fod yn beryglus
- camgymeriad gyrru – nid yw hwn yn gamgymeriad a allai fod yn beryglus, ond gallai fod yn gamgymeriad difrifol os byddwch chi’n gwneud yr un camgymeriad drwy gydol eich prawf
Y marc pasio ar gyfer modiwl un
Gallwch wneud hyd at bump o gamgymeriadau gyrru, a byddwch yn dal i basio modiwl un. Os gwnewch chi chwech neu ragor o gamgymeriadau gyrru, ni fyddwch yn pasio’r modiwl.
Os gwnewch chi un camgymeriad difrifol neu beryglus, ni fyddwch yn pasio modiwl un.
Y marc pasio ar gyfer modiwl dau
Gallwch wneud hyd at ddeg o gamgymeriadau gyrru, a byddwch yn dal i basio modiwl dau. Os gwnewch chi 11 neu ragor o gamgymeriadau gyrru, ni fyddwch yn pasio’r modiwl.
Os gwnewch chi un camgymeriad difrifol neu beryglus, ni fyddwch yn pasio modiwl dau.
Weithiau mae’n rhaid i’r Asiantaeth Safonau Gyrru ganslo profion gyrru oherwydd pethau fel tywydd garw neu broblemau gyda’r cerbyd. Cael gwybod beth sy’n digwydd os yw’ch prawf yn cael ei ganslo, a beth sydd angen i chi wneud pan fydd tywydd garw.
