Eich helpu i fynd i weithio :Cross Stitch – Cyflogaeth

Ar wahanol adegau yn ystod eich bywyd, mae’n bosib y bydd angen mwy o gyngor a chymorth i’ch helpu i fynd i weithio. P’un ai a ydych chi’n rhiant unigol, yn anabl, yn gadael yr ysgol neu’r coleg, dros 50 oed, neu’n ddi-waith, mae cymorth ymarferol ar gael.
Mae gan y Ganolfan Byd Gwaith un o gronfeydd data swyddi gwag mwyaf Prydain, sy’n cael ei diweddaru’n gyson. Mae miloedd o swyddi newydd ar gael bob wythnos. Gallwch hefyd chwilio am waith gwirfoddol a all eich helpu i ddatblygu a dysgu sgiliau newydd tra byddwch yn chwilio am swydd.
Ceir llawer o sefyllfaoedd lle gallwch fod yn chwilio am waith, ac mae gan bawb wahanol anghenion, sgiliau a chyfrifoldebau. Ceir llawer o wahanol fathau o swyddi, ac mae amrywiaeth o gymorth ar gael.
Newidiadau pwysig i fudd-daliadau ar gyfer rhieni unigol
Ar 24 Tachwedd 2008 cyflwynwyd newidiadau i Gymhorthdal Incwm ar gyfer rhai rhieni unigol. Unwaith y bydd eich plentyn ieuengaf yn cyrraedd oedran penodol mae’n bosibl y gall eich hawl i Gymhorthdal Incwm ddod i ben os ydych yn ei hawlio fel rhiant unigol yn unig.
Yn hytrach, gyda chymorth y Ganolfan Byd Gwaith, bydd yn rhaid i chi wneud cais am fudd-dal arall. Hefyd, os yw’r gallu gennych, cewch eich annog i chwilio am waith cyflogedig.
Mae hwn yn un o amryw o newidiadau i’r system fudd-daliadau i helpu pobl i gael y sgiliau ar gyfer gwaith ac i ddechrau gweithio mewn swydd â thâl.
Gall symud o’r ysgol, o’r coleg neu’r brifysgol i fyd gwaith fod yn gam mawr. Hyd yn oed os oes gennych syniad da am ben draw’r daith, nid yw’r ffordd orau o gyrraedd yno bob amser yn glir. Ond mae llawer o gyfleoedd a help ar gael, gan gynnwys cael y profiad angenrheidiol a’r cymorth ariannol ar gyfer hyfforddi.
Os na allwch neu os nad ydych am weithio amser llawn, ceir dewisiadau eraill. Dyma rai esiamplau:
- gwaith dros dro – gallech weithio mewn swydd am gyfnod penodol, fel arfer fel rhan o brosiect penodol neu i lenwi rôl aelod parhaol o staff
- gwaith rhan-amser – ffordd dda o ffitio eich gwaith o amgylch cyfrifoldebau eraill a chael arian a phrofiad
- gweithio hyblyg – weithiau bydd cyflogwyr yn cytuno ar drefniadau gweithio hyblyg – gallai hyn olygu dewis yr amser y byddwch yn dechrau ac yn gorffen gweithio, neu weithio mwy o oriau ar rai diwrnodau fel y gallwch gymryd mwy o amser i ffwrdd
- gweithio yn ystod y tymor – gallai cael amser i ffwrdd yn ystod gwyliau’r ysgol fod yn ddelfrydol os oes gennych blant a’u bod yn yr ysgol
- gweithio yn ystod y gwyliau – dewis ymarferol os ydych yn dal i astudio
- rhannu swydd – weithiau gall dau unigolyn rannu un swydd amser llawn – chwiliwch am swyddi a gaiff eu hysbysebu fel swyddi i’w rhannu, neu os ydych am rannu swydd gyda rhywun rydych yn ei adnabod, gallech bob amser gynnig y syniad i’ch cyflogwr
- hunangyflogaeth – mae gweithio i chi eich hun yn cynnig hyblygrwydd a’r math o her sy’n apelio at rai pobl, ond bydd yn rhaid i chi gael mwy o gyfrifoldeb – er enghraifft, drwy dalu eich treth incwm eich hun
- gwaith gwirfoddol – mae gweithio heb gyflog yn un ffordd o gael profiad gwaith a chael dysgu mwy am faes sydd o ddiddordeb i chi
Gall cynghorydd personol y Ganolfan Byd Gwaith roi cyngor i chi sy’n seiliedig ar eich amgylchiadau personol, a gall eich helpu i sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth y mae gennych hawl i’w chael. Efallai y bydd eich cynghorydd yn gofyn i chi gymryd rhan mewn cyfweliad er mwyn penderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio eich sgiliau a’ch profiad. Gallwch holi hefyd a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol tra’r ydych yn chwilio am waith.
Mwy o gysylltiadau defnyddiol
Darparwyd gan Jobcentre Plus
