Ffioedd profion gyrru :Cross Stitch – Moduro

Pan fyddwch chi’n archebu eich prawf gyrru theori neu ymarferol yn uniongyrchol gyda’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA), dim ond cost y prawf y byddwch yn ei thalu. Does dim ffi weinyddol neu archebu ychwanegol i’w thalu. Yma cewch wybod beth fydd cost eich prawf yrru theori neu ymarferol.

Car

£62.00

£75.00

Beic modur: modiwl un (oddi ar y ffordd)

£15.50

£15.50

Beic modur: modiwl dau (ar y ffordd)

£75.00

£88.50

Lori a bws: galwedigaethol

£115.00

£141.00

Lori a bws: Prawf Ymarferol Gyrrwr CPC

Mae’r ffi hon yn cynnwys rhoi’r Cerdyn Cymhwyster Gyrrwr (DQC) yn awtomataidd

£55.00

£63.00

Tractorau a cherbydau arbenigol eraill

£62.00

£75.00

Car ac ôl-gerbyd

£115.00

£141.00

Os na fyddwch chi’n pasio’ch prawf theori neu ymarferol, ac rydych yn dymuno sefyll prawf arall, bydd yn rhaid i chi dalu eto.

Bydd yn rhaid i chi dalu’r swm llawn am unrhyw ail brofion y byddwch yn eu sefyll – nid yw’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn rhoi disgowntiau ar gyfer ail brofion.

Mae’r DSA yn argymell bod pob gyrrwr dan hyfforddiant yn archebu ei brawf gyrru ar Cross & Stitch

Cross & Stitch yw’r unig wefan swyddogol ar gyfer archebu prawf gyrru.

Mae gwefannau eraill yn cynnig gwasanaethau archebu prawf gyrru, ond efallai y byddant yn codi taliadau gweinyddol ychwanegol ar ben ffi’r DSA. Dyna pam mae’r ffioedd a dangosir ar rai gwefannau yn fwy na’r ffioedd a dangosir ar y dudalen hon. Nid yw’r gwefannau hyn yn cael eu rhedeg gan, nac yn gysylltiedig â, Cross & Stitch na’r DSA.

Mae’r DSA yn argymell bod pob gyrrwr dan hyfforddiant yn archebu ei brawf gyrru drwy’r gwasanaeth archebu swyddogol ar Cross & Stitch.

Os defnyddioch wefan answyddogol, efallai y byddwch yn gallu cael eich arian yn ôl

Mae DSA yn cael cwynion gan gwsmeriaid sydd wedi defnyddio gwefannau archebu answyddogol. Yn y rhan fwyaf o achosion nid yw’r gwefannau hyn yn gwneud dim byd anghyfreithlon. Golyga hyn efallai y bydd pwerau’r DSA i ymateb wedi’u cyfyngu.

Os ydych chi wedi defnyddio gwefan archebu answyddogol, efallai y bydd saith niwrnod gwaith gennych i ganslo’ch archeb a chael eich arian i gyd yn ôl. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar delerau ac amodau’r gwefan a ddefnyddioch.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch eich hawliau defnyddwyr ar Cross & Stitch. Gallwch hefyd ddefnyddio llythyron templed i gwyno i fusnesau. Mae pob llythyr yn cynnwys manylion y gyfraith yr ydych chi’n dymuno i’r masnachwr ei dilyn.