Gwaharddiad rhag gyrru: cytundebau rhwng Prydain Fawr a gwledydd eraill :Cross Stitch – Moduro

Ceir amryw o drefniadau rhwng Prydain Fawr, Gogledd Iwerddon, Iwerddon ac Ynys Manaw sy’n golygu bod y gwledydd yn cydnabod gwaharddiadau rhag gyrru ei gilydd. Yma cewch wybodaeth am y trefniadau hynny rhwng Prydain Fawr a phob gwlad.
Er 11 Hydref 2004, mae Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn cydnabod gwaharddiadau rhag gyrru ei gilydd. O ganlyniad:
- bydd gyrwyr sydd wedi cael eu gwahardd rhag gyrru yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu gwahardd rhag gyrru ym Mhrydain Fawr hefyd
- gellir tynnu trwydded Gogledd Iwerddon yn ôl yn unol â Deddf Traffig y Ffyrdd (Gyrwyr Newydd) 1995
- gellir tynnu trwydded Gogledd Iwerddon yn ôl ar sail anabledd ac anabledd posibl
Daeth amodau tebyg i rym yng Ngogledd Iwerddon ar yr un pryd ag ym Mhrydain Fawr.
Er 23 Mai 2005, mae Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn cydnabod trefniadau gwaharddiadau rhag gyrru Ynys Manaw. Mae hyn yn golygu:
- bydd gyrrwr sydd wedi’i wahardd rhag gyrru ym Mhrydain Fawr neu yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei wahardd rhag gyrru yn Ynys Manaw hefyd
- bydd gyrrwr sydd wedi’i wahardd rhag gyrru gan lys yn Ynys Manaw yn cael ei wahardd rhag gyrru ym Mhrydain Fawr ac yng Ngogledd Iwerddon hefyd nes daw’r gwaharddiad i ben
Nid yw’r canlynol wedi’u cynnwys yn y cynllun hwn:
- gwaharddiad am gronni gormod o bwyntiau cosb
- pwyntiau cosb penodedig
- y Ddeddf Gyrwyr Newydd
Ar 28 Ionawr 2010, cafodd y trefniadau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ar gyfer gwaharddiadau rhag gyrru eu hymestyn i gynnwys Iwerddon. Mae hyn yn golygu:
- bydd gyrrwr sy’n preswylio’n arferol ym Mhrydain Fawr ond sydd wedi cael ei wahardd rhag gyrru yn Iwerddon, yn cael ei wahardd rhag gyrru ym Mhrydain Fawr hefyd
- bydd gyrwyr sy’n preswylio’n arferol yn Iwerddon ond sydd wedi cael ei wahardd rhag gyrru ym Mhrydain Fawr, yn cael ei wahardd rhag gyrru yn Iwerddon hefyd
- bydd y trosedd wedi’i ardystio ar y drwydded yrru am bedair blynedd ar ôl dyddiad yr euogfarn
Nid yw’r canlynol wedi’u cynnwys yn y cynllun hwn:
- gwaharddiad am gronni gormod o bwyntiau cosb
- y Ddeddf Gyrwyr Newydd
Mae’r troseddau a gyd-gydnabyddir rhwng Prydain Fawr ac Iwerddon yn perthyn i chwe chategori ymddygiad.
Categorïau ymddygiad:
| MR09 | Gyrru’n beryglus neu’n ddiofal (boed hynny wedi arwain at farwolaeth, anaf neu berygl difrifol ai peidio) |
| MR19 | Methiant bwriadol i gyflawni’r ddyletswydd a osodir ar yrwyr ar ôl bod yn rhan o ddamwain ffordd (damwain a dianc) |
| MR29 | Gyrru cerbyd o dan ddylanwad alcohol neu sylwedd arall sy’n lleihau neu’n effeithio ar allu meddyliol a chorfforol y gyrrwr, neu wrthod gwneud prawf alcohol a chyffuriau |
| MR39 | Gyrru cerbyd yn gyflymach na’r cyflymder a ganiateir |
| MR49 | Gyrru cerbyd o dan waharddiad |
| MR59 | Ymddygiad arall sy’n arwain at drosedd y pennwyd gwaharddiad ar ei gyfer yn y Wladwriaeth lle cyflawnwyd y trosedd, a hwnnw’n waharddiad o chwe mis neu ragor |
