Gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post :Cross Stitch – Teithio a thrafnidiaeth

Mae’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argymell eich bod yn cyflwyno eich cais am basbort drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Gwirio ac Anfon a gynigir gan rai canghennau Swyddfa’r Post. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys edrych ar eich ffurflen gais a’r dogfennau ategol cyn eu hanfon er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gywir. Fel arfer, mae’n gynt na chais safonol drwy’r post.
Ar ôl i chi lenwi eich ffurflen gais, os ewch chi â hi a’r dogfennau ategol i gangen Swyddfa’r Post sy’n cynnig y gwasanaeth Gwirio ac Anfon, gallant wneud y canlynol:
- gwneud yn siŵr bod eich ffurflen gais wedi’i llenwi’n gywir
- gwneud yn siŵr eich bod wedi cynnwys eich dogfennau ategol a’r ffi gywir
- anfon yr holl waith papur perthnasol a’ch tâl am y pasbort yn uniongyrchol i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau
Mae ceisiadau a anfonir drwy’r gwasanaeth Gwirio ac Anfon hefyd yn llai tebygol o lawer o gael eu dychwelyd neu wynebu oedi oherwydd ymholiadau, ond efallai y bydd yn dal angen i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth.
Fel arfer, bydd ceisiadau a anfonir drwy’r gwasanaeth Gwirio ac Anfon yn cael eu prosesu’n gynt na cheisiadau safonol drwy’r post. Gallwch ddisgwyl cael eich pasbort mewn oddeutu pythefnos.
Ni ellir gwarantu’r amseroedd, ac nac ydynt yn cynnwys amser postio. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen amser ychwanegol ar y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau er mwyn asesu eich cais, gan gynnwys cadarnhau manylion yr ydych wedi’u rhoi a chysylltu â’ch adlofnodwr.
Fodd bynnag, os ydych yn gwneud cais am eich pasbort oedolyn cyntaf, dylech bob amser ganiatáu hyd at chwe wythnos iddo gyrraedd. Y rheswm am hyn yw ei bod yn debygol y bydd angen i chi fynd i gyfweliad am basbort.
I gael mwy o wybodaeth am gyfweliadau am basbort, dilynwch y ddolen isod.
Mae’r gwasanaeth Gwirio ac Anfon yn addas ar gyfer ffurflenni cais papur ac ar gyfer ffurflenni cais a lenwir ar-lein. Os byddwch yn llenwi ac yn cyflwyno’ch ffurflen ar-lein, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ei hargraffu ac yn ei hanfon atoch er mwyn i chi wneud yn siŵr ei bod yn gywir, cyn ei llofnodi a’i dychwelyd. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw mynd â’r ffurflen a’r dogfennau ategol i gangen Swyddfa’r Post sy’n cynnig y gwasanaeth Gwirio ac Anfon.
Os bydd Swyddfa’r Post yn gwneud camgymeriad gyda’ch ffurflen gais, gallwch ofyn am adhawlio’r ffi weinyddol y gwnaethoch ei thalu iddynt.
Ni fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau na Swyddfa’r Post yn gyfrifol am unrhyw golled anuniongyrchol na cholled yr ydych wedi’i dioddef yn sgil y gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys (i enwi dim ond rhai) unrhyw enghraifft o golli cyfle, elw, incwm neu enw da. Mae hyn yn golygu, na allwch hawlio am un rhywbeth sydd wedi digwydd i chi o ganlyniad i’ch pasbort yn cael ei ohirio. Gallwch dim ond hawlio ad-daliad am gost y gwasanaeth Gwirio ac Anfon.
