Gwasanaethau cerbydau ar-lein DVLA. | Testun y dudalen rhy fach?
Isod ceir cyfarwyddiadau fesul cam sy’n dweud sut i gynyddu maint y testun yn Internet Explorer. Ceir cyfarwyddiadau am Mozilla ar waelod y dudalen.
Cyfarwyddiadau (MS Internet Explorer 6 ar MS Windows XP)
- Agorwch ddewislen ‘View’ yn y gornel uchaf ar y chwith gan ddefnyddio’r llygoden, neu wasgu ‘Alt’+’V’.

- Bydd ail ddewislen yn ymddangos, dewiswch opsiwn ‘Text Size’ gan ddefnyddio’r llygoden neu wasgu ‘X’.

- Dewiswch y maint testun sy’n well gennych drwy glicio’r llygoden neu drwy ddefnyddio’r allweddi saeth i fyny ac i lawr a gwasgu ‘Enter’.

Dylai’r testun ar y wefan fod wedi newid nawr i’r maint testun sy’n well gennych. Cyfarwyddiadau (Mozilla Firefox 3 ar MS Windows XP) Os ydych yn defnyddio Mozilla Firefox fel eich porwr, naill ai pwyswch ‘Ctrl’ a ‘+’ gyda’i gilydd neu ewch i ddewislen ‘View’ ac yna ‘Zoom’ a dewis ‘Zoom In’. Os ydych yn defnyddio porwr arall, yna ewch i ‘Help’ am wybodaeth am newid meintiau’r testun.
