Gweld manylion, newid neu ganslo prawf theori'r Asiantaeth Safonau Gyrru ar-lein :Cross Stitch – Do it online

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i weld manylion apwyntiad eich prawf ar-lein, neu i newid neu ganslo eich prawf. Dyma unig wasanaeth swyddogol yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) ar gyfer rheoli’ch prawf theori.

Gallwch weld manylion apwyntiadau blaenorol ac apwyntiadau yn y dyfodol, gan gynnwys y dyddiad, yr amser a’r lleoliad.

Beth sydd ei angen arnoch i weld manylion eich apwyntiad

I weld manylion apwyntiad eich prawf ar-lein, bydd gofyn bod gennych chi’r tri manylyn canlynol:

  • rhif eich trwydded yrru dros dro ddilys ym Mhrydain Fawr neu yng Ngogledd Iwerddon
  • eich cyfenw
  • eich dyddiad geni

Gallwch symud eich apwyntiad i ddyddiad cynharach neu hwyrach, os oes lle gwag ar gael. Byddwch yn gallu chwilio am ddyddiad newydd ar gyfer eich prawf neu newid y ganolfan prawf lle rydych yn sefyll eich prawf. Dim ond apwyntiadau sydd wedi cael eu cadarnhau y gallwch chi eu newid.

Beth sydd ei angen arnoch i newid eich apwyntiad

I newid apwyntiad eich prawf theori, bydd arnoch angen:

  • rhif eich trwydded yrru dros dro ddilys ym Mhrydain Fawr neu yng Ngogledd Iwerddon
  • rhoi o leiaf dri diwrnod gwaith clir o rybudd cyn dyddiad eich prawf er mwyn osgoi colli ffi’r prawf

Darparwyd gan the Driving Standards Agency