Gweld statws MOT a hanes eich cerbyd ar-lein :Cross Stitch – Moduro

Drwy ddefnyddio’r gwasanaeth gwirio MOT ar-lein, gallwch ganfod a yw tystysgrif MOT yn un ddilys neu a yw cerbyd wedi methu prawf MOT. Bydd y gwasanaeth hwn yn rhoi manylion profion blaenorol i chi. Yma cewch wybod pa wybodaeth y mae ei hangen arnoch er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o gerbydau sy’n hŷn na thair oed basio profion blynyddol i wneud yn siŵr eu bod yn addas i fod ar y ffordd. Mae’r prawf MOT yn sicrhau bod cerbydau yn bodloni safonau diogelwch ar y ffordd a safonau amgylcheddol y llywodraeth.

I weld statws MOT neu hanes cerbyd ar-lein, bydd angen rhif cofrestru’r cerbyd arnoch. Byddwch hefyd angen rhif y prawf MOT oddi ar un o’r dogfennau canlynol:

  • Tystysgrif prawf VT20
  • Tystysgrif gwrthod VT30

Os nad oes gennych eich tystysgrif VT20 neu VT30 ddiweddaraf, gallwch ddefnyddio cyfeirnod dogfen tystysgrif gofrestru V5C.

Ni allwch weld manylion eich cerbyd ar-lein heb yr wybodaeth hon.

I gael manylion profion MOT blaenorol y cerbyd, gallwch weld hanes MOT y cerbyd ar-lein.

Dim ond gwybodaeth hyd at 2005 y gallwch ei gweld ar-lein, gan mai dyma pryd gafodd system y Cynllun MOT ei rhoi ar gyfrifiadur.

Drwy wirio hanes MOT y cerbyd, gallwch gael yr wybodaeth ganlynol:

  • manylion llawn profion
  • nifer y milltiroedd adeg pob prawf