Gwirfoddoli tra'n chwilio am waith :Cross Stitch – Cyflogaeth

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddatblygu a dysgu sgiliau newydd tra’ch bod yn chwilio am swydd. Gallai hyd yn oed gynyddu eich siawns o ddod o hyd i waith. I gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am ‘Cydweithio’ – cymorth newydd y gallwch ei gael gyda gwirfoddoli gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Mae llawer o fanteision i wirfoddoli. Mae’n ffordd wych o ddod yn rhan o amgylchedd gwaith a allai eich helpu i:

  • datblygu sgiliau newydd
  • ennill profiad
  • cael hyfforddiant mewn meysydd gwaith newydd
  • archwilio diddordebau gyrfa
  • cynyddu eich cysylltiadau, a allai arwain tuag at waith
  • magu eich hyder
  • datblygu a gwella eich CV

Mae gwirfoddoli hefyd yn ffordd wych o gefnogi eich cymuned a gall wneud gwahaniaeth mawr yn lleol.

Os ydych yn cael budd-daliadau ac yn awyddus i wirfoddoli, gallwch gael help i ddod o hyd i gyfleoedd gan y Ganolfan Byd Gwaith, drwy ‘Cydweithio’.

Gall ‘Cydweithio’ eich helpu i ddysgu mwy am wirfoddoli yn ogystal â rhoi gwybodaeth i chi am ble i ddod o hyd i gyfleoedd.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am ‘Cydweithio’, siaradwch â’ch ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith yn ystod eich apwyntiad nesaf

Ni ddylai gwirfoddoli effeithio ar eich hawl i gael budd-daliadau ar yr amod mai dim ond er mwyn talu treuliau gwirfoddoli y cewch yr arian. Gallai hyn fod ar gyfer pethau fel cost teithio o’ch cartref i’r lleoliad gwirfoddoli.

Nid oes terfyn ar faint o amser y gallwch wirfoddoli amdano, nac unrhyw gyfyngiadau ar y mathau o sefydliad y gallwch wirfoddoli iddynt. Yr unig ofyniad yw eich bod yn parhau i fodloni amodau’r budd-dal neu’r credyd treth rydych yn ei gael.

Defnyddiwch y ddolen ganlynol i weld rhagor o wybodaeth am wirfoddoli tra’n cael budd-daliadau.