Gwneud cais am brofiant :Cross Stitch – Llywodraeth, dinasyddion a hawliau

Os ydych yn ysgutor ewyllys person efallai y bydd angen dogfen gyfreithiol arnoch a elwir yn ‘grant profiant’ a fydd yn eich galluogi i gael trefn ar faterion yr ymadawedig. Os nad oes ewyllys, gall perthynas agos wneud cais am ‘grant llythyrau gweinyddu’.

Mae’r erthygl hon yn ymwneud yn bennaf â’r drefn ar gyfer marwolaeth yng Nghymru a Lloegr. Mae’r ffurflenni sy’n ofynnol ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi’u cynnwys, ond bydd angen i chi ddilyn y dolenni ar wahân i gael manylion y gweithdrefnau.

Os oes mwy nag un ysgutor, mae’n arferol cael cytundeb bod un yn gwneud cais am y grant ac yn rhoi trefn ar yr ewyllys. Ond gall hyd at bedwar ysgutor wneud cais ar y cyd a chael trefn ar bethau gyda’i gilydd.

Mae’r ffurflenni y bydd angen i chi eu llenwi yn dibynnu ar ble yr oedd y person yn byw ac a oes Treth Etifeddu i’w thalu neu beidio ar yr ystad. Dim ond mewn nifer bach o achosion y mae Treth Etifeddu’n cael ei thalu, pan fo gwerth trethadwy ystad yr ymadawedig (ar ôl eithriadau) yn fwy na’r trothwy £312,000 (yn berthnasol i farwolaethau ym mlwyddyn dreth 2008-2009).

Er mwyn cael profiant, bydd angen i chi fynd i gyfweliad i gadarnhau’r manylion yn eich cais.

  • penderfynwch ymhle yr hoffech i’r cyfweliad gael ei gynnal drwy gyfeirio at y rhestr ar ffurflen PA4 (dolen isod)
  • anfonwch eich holl ffurflenni, a’r dogfennau ychwanegol a’r ffi profiant y gofynnwyd amdanynt ar restr wirio PA1, i swyddfa’r Gofrestrfa Brofiant briodol ar gyfer y lleoliad hwnnw (gweler yr adrannau diweddarach ar ffioedd)
  • cewch apwyntiad ar gyfer cyfweliad o fewn tua deg diwrnod i anfon eich cais
  • os bydd popeth yn iawn, dylech gael y grant profiant drwy’r post yn fuan ar ôl y cyfweliad

I weld y drefn ar gyfer yr Alban neu Ogledd Iwerddon, dilynwch y dolenni ar ddiwedd yr adran hon.

Er mwyn cael profiant, bydd angen i chi fynd i gyfweliad i gadarnhau’r manylion yn eich cais.

  • penderfynwch ymhle yr hoffech i’r cyfweliad gael ei gynnal drwy gyfeirio at y rhestr ar ffurflen PA4 (dolen isod)
  • anfonwch y ffurflenni PA1 ‘Cais am brofiant’ a IHT421 ‘Crynodeb profiant’, a’r dogfennau ychwanegol a’r ffi profiant y gofynnwyd amdanynt ar restr wirio PA1, i swyddfa’r Gofrestrfa Brofiant briodol ar gyfer y lleoliad hwnnw (gweler yr adran ddiweddarach ar ffioedd)
  • bydd y Gofrestrfa Profiant yn anfon ffurflen IHT421 yn ôl atoch, gyda’u cyfeiriad wedi’i nodi, ynghyd â’ch llythyr apwyntiad cyfweliad
  • cewch apwyntiad ar gyfer cyfweliad o fewn tua deg diwrnod i anfon eich cais
  • anfonwch ffurflen IHT421 a ffurflen IHT400 (ynghyd ag unrhyw Dreth Etifeddu y mae angen ei thalu os ydych eisoes wedi cyfrifo’r swm hwn) at Gyllid a Thollau EM – bydd y cyfeiriad perthnasol yn y nodiadau ar gyfer ffurflen IHT400
  • os ydych wedi nodi yr hoffech i Gyllid a Thollau EM gyfrifo’r dreth i chi, byddant yn gwneud hyn ac yn dweud wrthych beth sy’n ddyledus
  • unwaith y bydd unrhyw dreth sy’n ddyledus wedi’i thalu, neu os nad oes treth i’w thalu, bydd Cyllid a Thollau EM yn stampio ac yn dychwelyd ffurflen IHT421 i swyddfa’r gofrestrfa brofiant i gadarnhau hyn
  • bydd swyddfa’r gofrestrfa brofiant yn rhoi’r grant

Os oedd yr ymadawedig yn byw neu’n cartrefu dramor a dim treth i’w thalu, neu os oes angen y grant ar gyfer ‘eiddo setledig’ nad oes treth i’w thalu arno, anfonwch ffurflen IHT400 a ffurflen IHT421 at Gyllid a Thollau EM cyn anfon eich papurau i’r Gofrestrfa Brofiant. Gweler tudalen 56 nodiadau IHT400.

Gall ysgutor hefyd benodi rhywun arall (ar wahân i dwrnai) i wneud cais am grant ar ei ran. Yr ‘atwrnai’ yw’r enw ar y person hwn, a rhaid iddo lenwi ffurflen PA1 a’i hanfon i’r Gofrestrfa Brofiant ynghyd â llythyr wedi’i lofnodi gan yr ysgutor yn esbonio ei fod am i’r atwrnai wneud cais ar ei ran.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am wneud cais am brofiant, ffoniwch y llinell gymorth Profiant a Threth Etifeddu ar 0845 302 0900. Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm.

Mwy o ddolenni defnyddiol