Gwneud cais am ddisg dreth ddyblyg :Cross Stitch – Moduro

Rhaid i chi gael disg treth newydd yn lle un sydd ar goll, wedi’i dwyn, ei dinistrio neu ei difrodi, neu os nad oes modd ei darllen oherwydd bod y ddisg wedi colli ei lliw. Gallwch gael disg treth ddyblyg yn bersonol neu drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen V20W ‘Cais am ddisg treth ddyblyg’.
Os nad oes gennych dystysgrif cofrestru nac atodiad ceidwad newydd, bydd angen i chi lenwi ffurflen V62W ‘Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5C)’. Bydd angen hefyd i chi gynnwys y ffi o £25 (am dystysgrif cofrestru) gyda’ch cais am ddisg treth ddyblyg.
Os bydd cofnodion DVLA yn dangos mai chi yw’r ceidwad cofrestredig a bod y cerbyd wedi’i drethu ar hyn o bryd, bydd y swyddfa DVLA leol yn anfon disg treth ddyblyg atoch yn ddi-oed. Fel arall, bydd DVLA yn dal eich cais yn ôl nes bydd cofnod y cerbyd wedi’i ddiweddaru. Efallai y rhoddir disg treth ddyblyg dros dro i chi, a bydd yn ddilys am hyd at wyth wythnos.
Cyn gynted ag y bydd y cofnodion wedi’u diweddaru, rhoddir disg treth ddyblyg lawn i chi.
Gellir defnyddio’r atodiad ceidwad newydd mewn swyddfa DVLA leol am hyd at 13 mis ar ôl dyddiad prynu’r cerbyd. Os yw dyddiad y ddisg treth wedi dod i ben, bydd angen i chi lenwi ffurflen V62W ‘Cais am Dystysgrif Cofrestru Cerbyd (V5CW)’ yn ei le. Dylech gynnwys hon a’r atodiad ceidwad newydd gyda’ch cais. Does dim angen y ffi o £25.
Mae disg treth ddyblyg yn costio £7, ac fel arfer ni chewch ad-daliad unwaith y bydd y swyddfa DVLA leol wedi cael y cais.
Does dim angen i chi dalu ffi’r ddisg treth:
- os nad oes modd darllen y ddisg treth neu os yw’r lliw wedi pylu
- os yw’r ddisg treth wedi mynd ar goll yn y post
- os yw’r heddlu yn cadw’r ddisg treth fel tystiolaeth
- os yw DVLA wedi gwrthod ffurflen V14W ‘Cais am ad-daliad treth cerbyd’ – mae angen amgáu copi o’r llythyr gwrthod gyda ffurflen V20W
Does dim angen i chi dalu’r ffi ychwaith os:
- nad oes rhaid talu treth cerbyd ar y cerbyd, fel y dosbarth treth anabl
- yw’r cerbyd wedi’i ddwyn a’ch bod yn ei gael yn ôl heb y ddisg treth
Gan nad yw’r ddisg wreiddiol yn ddilys mwyach, rhaid ei dychwelyd i’r swyddfa DVLA leol a roddodd y ddisg ddyblyg i chi. Cadwch y ddisg treth ddyblyg ar y cerbyd.
Dywedwch wrth yr heddlu os yw eich disg treth wedi’i dwyn.
