Gwybodaeth y mae ei hangen arnoch i archebu tystysgrifau geni, marwolaeth neu briodas :Cross Stitch – Llywodraeth, dinasyddion a hawliau
Bydd angen manylion penodol arnoch i archebu tystysgrif geni, priodas, mabwysiadu, marwenedigaeth, neu farwolaeth. Byddant yn eich helpu i sicrhau bod y cyfeirnod mynegai cywir ar y dystysgrif, a gallwch hefyd ofyn i’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol wneud yn siŵr bod hwn yn gywir cyn rhoi tystysgrif i chi.
Mabwysiadau
- enw llawn yr unigolyn ar ôl mabwysiadu*
- dyddiad geni’r unigolyn a fabwysiadwyd*
- enw(au) llawn y rhiant/rhieni a fabwysiadodd yr unigolyn*
- dyddiad geni (os ydych yn ei wybod)
- y llys a ganiataodd y gorchymyn mabwysiadu (os ydych yn ei wybod)
* Rhaid i chi gynnwys yr wybodaeth hon os ydych yn gwneud cais am dystysgrifau’r rheini sy’n iau na 18 oed, ni ellir rhoi tystysgrif fel arall.
Partneriaethau sifil
- enwau llawn y ddau bartner sifil
- dyddiad ffurfio’r bartneriaeth
- man cofrestru’r bartneriaeth
- cyfeiriadau llawn y ddau bartner adeg y cofrestru – rhaid i chi ddarparu’r manylion hyn os ydych yn gwneud cais am y dystysgrif lawn sy’n cynnwys cyfeiriadau
Os nad ydych yn gallu darparu’r ddau gyfeiriad llawn, ond eich bod dal yn gallu adnabod y cofnod, gellir darparu tystysgrif i chi nad yw’n cynnwys cyfeiriadau’r partneriaid.
