Hamdden :Cross Stitch – Pobl ifanc

Yn yr adran hon fe gewch wybod sut i gymryd mwy o ran mewn chwaraeon a gwneud mwy yn eich amser rhydd.

Nid yn unig y bydd chwaraeon yn eich cadw’n iach ac yn heini, mae hefyd yn gyfle i fynd allan o’r tŷ, ac nid oes rhaid iddo gostio ceiniog i chi.

Os ydych yn nofiwr brwd ac yn byw yn Lloegr, mae dros 200 o awdurdodau lleol ledled Lloegr yn cynnig nofio am ddim i bawb o dan 16 oed. Os ydych am ddysgu sut mae nofio, mae dros 100,000 o wersi am ddim ar gael hefyd.

Hyd yn oed os nad yw’ch awdurdod lleol yn cynnig nofio am ddim ar gyfer rhai dan 16 oed, bydd dal yn bosib i chi ddefnyddio pwll nofio am ddim mewn ardal gyfagos sy’n cymryd rhan yn y cynllun.

Efallai fod eich awdurdod lleol yn rhedeg clybiau ieuenctid neu ganolfannau galw heibio lle gallwch weld eich ffrindiau a chwrdd â phobl eraill.

Gallwch hefyd holi a yw’ch awdurdod lleol yn rhedeg unrhyw ddosbarthiadau a all fod o ddiddordeb i chi. Gallant drefnu pob math o weithgareddau, gan gynnwys grwpiau drama a dosbarthiadau chwaraeon, heb i chi hyd yn oed sylweddoli hynny.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna’n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.