Hunangyflogaeth :Cross Stitch – Cyflogaeth

Os oes gennych syniad busnes da, gall gweithio i chi eich hun fod yn werth chweil, ond gall gymryd llawer o waith caled ac ymroddiad. Os ydych am ddod yn hunangyflogedig, cael gwybod am y cymorth a chefnogaeth ddi-dâl sydd ar gael, ac os ydych yn gymwys am y Lwfans Menter Newydd.

Mae llawer o wybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol ar gael am ddim, os ydych am fod yn hunangyflogedig. Gallwch gael helpu ar bynciau fel:

  • sut i gynllunio busnes
  • sut i godi arian
  • sut i sicrhau bod gennych ddigon i fyw arno tra bydd eich busnes yn cael ei sefydlu

Mae cymorth ar gyfer busnesau newydd a phresennol, a byddant yn gallu eich helpu i gwrdd â’r holl ofynion cyfreithiol ac ariannol o fod yn hunangyflogedig.

Business Link, Business Getaway a Chymorth Busnes Cymru

Gallwch ganfod gwybodaeth, cyngor a chymorth i’ch helpu dechrau, cynnal a datblygu eich busnes o’r safle canlynol:

  • Lloegr – Business Link
  • Yr Alban – Business Getaway
  • Cymru – Cymorth Busnes Cymru

Pa gymorth arall sydd ar gael

Mae cymorth cyffredinol a chyngor ar gael gan Gymorth Busnes Cymru. Mae rhagor o gymorth hefyd ar gael i geiswyr gwaith drwy’r Ganolfan Byd Gwaith.

Lwfans Menter Newydd

Bydd y Lwfans Menter newydd yn helpu pobl ddi-waith sydd am dedchrau eu busnes eu hunain. Mae cefnogaeth mentora ymarferol ar gael i bobl sydd wedi bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith am dri mis neu fwy. Mae cymorth ariannol o hyd at tua £2,000 ar gael i bobl sydd wedi bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith am chwe mis neu fwy.

Benthyciad Dechrau Busnes

Os oes gennych ddiddordeb mewn dechrau eich busnes eich hun efallai y gallwch gael Benthyciad Dechrau Busnes:

  • os ydych rhwng 18 a 24 mlwydd oed
  • yn byw yn Lloegr
  • os nad ydych yn cael Lwfans Menter Newydd

Gallwch gael cymorth arbenigol i helpu i ddatblygu cynllun busnes a mynediad at hyfforddiant. Os caiff eich cynllun busnes ei gymeradwyo, gallwch gael Benthyciad Dechrau Busnes, fel arfer oddeutu £2,500. Byddwch yn talu’r benthyciad yn ôl dros gyfnod o hyd at bum mlynedd.

Darparwyd gan Jobcentre Plus