Hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT): sut mae ei ddilyn a phryd :Cross Stitch – Moduro

Mae’n rhaid i bawb sy’n dysgu gyrru beiciau modur a mopedau gwblhau cwrs hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) cyn gyrru ar y ffordd. Yma, cewch wybod sut mae dilyn y cwrs, a’r rheolau sy’n berthnasol ar ôl i chi ei gyflawni.
Os oes gennych chi drwydded i yrru car
Os gwnaethoch basio eich prawf gyrru car ar 1 Chwefror 2001 neu ar ôl hynny, rhaid i chi gyflawni cwrs CBT i gadarnhau eich holl hawliau i yrru moped.
Os gwnaethoch basio eich prawf gyrru car cyn 1 Chwefror 2001, nid oes angen i chi gwblhau CBT er mwyn gyrru moped. Fodd bynnag, mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn argymell eich bod yn dilyn y cwrs.
Os ydych chi am yrru beic modur, rhaid ichi wneud cais am drwydded beic modur dros dro, cyn cwblhau cwrs CBT.
Ni fydd rhaid i chi gwblhau CBT os oes gennych chi un o’r canlynol:
- trwydded lawn i yrru moped ar ôl pasio prawf gyrru moped llawn ar ôl 1 Rhagfyr 1990
- trwydded lawn i yrru beic modur ar gyfer un categori, ac rydych am uwchraddio i gategori arall
Ni fydd rhaid i chi gwblhau CBT ychwaith os ydych chi’n byw ac yn gyrru ar rai ynysoedd penodol oddi ar y tir mawr. Fodd bynnag, os byddwch yn gyrru i dir mawr y DU, bydd angen i chi gwblhau cwrs CBT.
Mae cost y cwrs yn amrywio o ddarparwr i ddarparwr – gellir ei chynnwys o fewn cost cwrs sy’n arwain at brawf beic modur
Dim ond cyrff hyfforddi cymeradwy all gynnal cwrs CBT, ac mae’n rhaid i’r rheini fod â:
- hyfforddwyr sydd wedi cael eu harchwilio gan DSA
- safleoedd y mae DSA wedi’u cymeradwyo ar gyfer hyfforddi oddi ar y ffordd
Beth fydd cost y CBT
Mae cost y cwrs yn amrywio o ddarparwr i ddarparwr. Caiff ei phenodi gan y corff hyfforddi cymeradwy, a gall y canlynol effeithio arno:
- lle bydd yr hyfforddi yn digwydd
- a ydych chi’n dod â’ch moped neu’ch beic modur eich hun
Gellir cynnwys cost y CBT o fewn cost cwrs hyfforddi llawn sy’n arwain at brawf beic modur.
Mae’r rhan fwyaf o gyrff hyfforddi cymeradwy yn cynnig llogi mopedau, beiciau modur a helmedau ar gyfer y cwrs.
Os bydd rhywbeth yn digwydd pan fyddwch yn hyfforddi
Os bydd rhywbeth yn digwydd pan fyddwch yn hyfforddi, bydd eich corff hyfforddi cymeradwy yn rhoi gwybod amdano mewn adroddiad i DSA, fel y gall DSA weithio gyda hyfforddwyr i wneud hyfforddiant yn fwy diogel. Bydd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol. Gellir defnyddio’r wybodaeth hon i ymchwilio i’r digwyddiad, a gellir ei throsglwyddo i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch pan fydd hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Mae’r cwrs CBT wedi’i drefnu mewn modd sy’n golygu eich bod yn dilyn cyfres o elfennau.
Dim ond pan fydd eich hyfforddwr yn fodlon eich bod wedi gwneud y canlynol y byddwch yn symud ymlaen at yr elfen nesaf:
- dysgu’r theori y mae ei hangen arnoch
- dangos y sgiliau ymarferol hyd at lefel sylfaenol ddiogel
Beth y’r pum elfen
Dyma’r pum elfen:
A. cyflwyniadB. hyfforddiant ymarferol ar y safleC. gyrru ymarferol ar y safleD. hyfforddiant ymarferol ar y ffordd
E. gyrru ymarferol ar y ffordd
Mae tystysgrifau CBT yn para am ddwy flynedd – os na fyddwch yn pasio’r prawf gyrru beic modur llawn yn y cyfnod hwn, bydd angen i chi gwblhau cwrs CBT arall
Pan fyddwch yn cwblhau cwrs CBT cewch dystysgrif cwblhau – a elwir weithiau yn DL196.
Bydd y dystysgrif yn nodi a gwblhawyd eich CBT ar:
- foped neu feic modur
- beic modur â cherbyd ochr neu foped â mwy na dwy olwyn
Bydd hyn yn cadarnhau eich hawliau fel y bo’n briodol.
Pa mor hir y bydd eich tystysgrif yn para
Bydd eich tystysgrif CBT yn caniatáu i chi yrru ar y ffordd gan ddangos platiau L (neu D neu L yng Nghymru) am ddwy flynedd.
Os na fyddwch yn pasio prawf theori a phrawf gyrru beic modur llawn erbyn diwedd y ddwy flynedd, bydd rhaid i chi gyflawni cwrs CBT arall, fel y gallwch barhau i yrru ar y ffordd fel dysgwr.
Os bydd eich tystysgrif CBT yn dod i ben cyn i chi basio modiwl dau y prawf beic modur, bydd angen i chi gyflawni cwrs CBT arall. Fodd bynnag, ni fydd angen i chi sefyll eich prawf theori na’ch prawf modiwl un eto os ydych chi wedi’u pasio eisoes, oni bai eu bod wedi dod i ben.
Gyrru moped os oes gennych chi drwydded i yrru car
Os oes gennych chi eisoes dystysgrif CBT pan fyddwch yn pasio eich prawf car, bydd eich hawliau llawn i yrru moped yn cael eu cadarnhau ar unwaith. Mae gan moped:
- cyflymder uchaf o ddim mwy nag oddeutu 31 milltir yr awr (50 cilometr yr awr)
- injan o ddim mwy na 50 centimetr ciwbig (cc)
Bydd tystysgrif CBT sy’n cadarnhau hawliau llawn i yrru moped ar drwydded car lawn yn para am oes y drwydded. Felly, mae’n bwysig eich bod yn cadw eich tystysgrif CBT mewn lle diogel.
