Lleddfu ofnau'r diwrnod cyntaf yn yr ysgol gynradd :Cross Stitch – Rhieni

Mae diwrnod cyntaf eich plentyn yn yr ysgol gynradd, mewn meithrinfa neu mewn cylch chwarae’n gam mawr. Fodd bynnag, mae digon o bethau ymarferol y gallwch chi eu gwneud i’w paratoi nhw, fel siarad â’ch plentyn am yr ysgol a helpu i ddatblygu eu sgiliau ymarferol.

Mae’n bosib y bydd eich plentyn yn poeni am beth i’w ddisgwyl ar ddiwrnod cynta’r ysgol.

Os felly, un ffordd o’u helpu yw sgwrsio â nhw am eu hofnau:

  • esboniwch i ble y byddan nhw’n mynd, beth y byddan nhw’n ei wneud ac am faint
  • atebwch gwestiynau, a lleddfwch unrhyw ofnau drwy ofyn iddyn nhw sut syniadau sydd ganddyn nhw am yr ysgol
  • pwysleisiwch y pethau y maen nhw’n debygol o’u mwynhau

Peidiwch â bychanu ofnau eich plentyn – mae pethau sy’n amlwg neu’n wirion i oedolion yn gallu bod yn fwgan mawr i blentyn pump oed.

Os oes gan blant syniad da o sut le fydd yr ysgol a’u bod nhw eisoes wedi cael profiad o weithgareddau dysgu gartref ac mewn sefyllfaoedd eraill, maen nhw’n llai tebygol o deimlo dan straen.

Gall gemau, chwarae rôl a darllen gartref fod o help i’ch plentyn fynd i’r ffrâm meddwl iawn a rhoi hwb i’w hyder.

Dyma rai o’r gweithgareddau y gallai eich plentyn eu gwneud:

  • chwarae gemau sy’n golygu cymryd eu tro neu siarad o flaen grŵp
  • chwarae gyda phlant o oedran tebyg er mwyn meithrin eu sgiliau cymdeithasol
  • darllen llyfrau am ddechrau’r ysgol
  • defnyddio hoff deganau eich plentyn i chwarae rôl mynd i’r ysgol
  • peintio a darlunio, sy’n golygu eistedd i lawr am gyfnodau byr

Pan fydd diwrnod cynta’r tymor ar y gorwel, fe allech chi:

  • gynnwys eich plentyn wrth ddewis y pethau sydd eu hangen ar gyfer yr ysgol fel bag ysgol neu wisg ysgol
  • ymweld â’r ysgol gyda’ch plentyn er mwyn iddyn nhw gael cyfle i weld beth sy’n digwydd
  • bydd gan rai ysgolion drefniadau i gynorthwyo’ch plentyn wrth ddechrau yn yr ysgol ac efallai yr hoffech holi am hyn
  • sefydlu trefn ddyddiol a thrafod beth allai fod yn digwydd yn yr ysgol ar wahanol adegau o’r diwrnod