Lwfans Ceisio Gwaith :Cross Stitch – Arian, treth a budd-daliadau

Mae Lwfans Ceisio Gwaith yn fudd-dal sy’n cael ei dalu i bobl gymwys sy’n ddi-waith ar hyn o bryd ac yn chwilio am waith.

Gallwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith ar-lein:

  • os ydych wrthi’n chwilio am waith neu’n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos
  • os ydych dros 18 oed ond o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban

I wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith ar-lein mae angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif ffôn y gellir ei ddefnyddio i gysylltu â chi
  • manylion ariannol, cyflogaeth ac addysg eich partner, os oes gennych un

Efallai y byddai hefyd yn ddefnyddiol i chi gael copi o’ch P45 neu P60 ar gyfer manylion treth, ond nid yw’n hanfodol.

Cofiwch: unwaith y byddwch yn dechrau eich cais newydd, gwnewch nodyn o’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair – gallwch wedyn ddychwelyd i gais a arbedwyd unrhyw bryd o fewn saith diwrnod.

Byddwch:

  • yn cael galwad ffôn neu neges testun o fewn dau ddiwrnod gwaith yn gofyn i chi fynd i gyfweliad yn eich Canolfan Byd Gwaith leol
  • yn mynd i gyfweliad ac yn cytuno camau tuag at ddod o hyd i waith

Ar ôl i’ch cais gael ei brosesu, byddant yn rhoi gwybod i chi a fyddwch yn cael Lwfans Ceisio Gwaith ai peidio, faint y byddwch yn ei gael a sut y caiff ei dalu.

Faint y cewch eich talu?

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd gennych hawl i’r symiau canlynol:

Dan 25 oed £56.25
Dros 25 oed £71.00
Cyplau, partneriaethau sifil £111.45

Os nad ydych yn gymwys i hawlio ar-lein (er enghraifft, rydych yn unig rhiant dan 18 oed), mae’n bosib y byddwch yn dal i fod yn gymwys i gael Lwfans Ceisio Gwaith.

Ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith:

0800 055 66880800 012 1888 llinell gyswllt Gymraeg

0800 023 4888 ffôn testun

Mae llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 6.00 pm.

Taflen wybodaeth gan y Ganolfan Byd Gwaith

Dewch i gael gwybod mwy am Lwfans Ceisio Gwaith drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol: