Lwfans Gofalwr :Cross Stitch – Arian, treth a budd-daliadau

Budd-dal i helpu pobl sy’n gofalu am rywun ag anabledd yw Lwfans Gofalwr. Does dim rhaid i chi fod yn perthyn i’r person yr ydych yn gofalu amdano, na byw gydag ef neu hi. Dewch o hyd i wybodaeth am bwy all gael Lwfans Gofalwr a sut i wneud cais.

Gall newidiadau i’ch amgylchiadau – ac amgylchiadau’r person rydych chi’n gofalu amdano/i – effeithio ar eich hawl i gael y Lwfans Gofalwr, neu’r swm a gewch.

Er enghraifft, newidiadau i’ch incwm neu gyflogaeth, os byddwch chi’n mynd i fyd addysg amser llawn neu’n cymryd hoe o’ch gwaith gofalu.

Os ydych yn derbyn Lwfans Gofalwr ac yn symud i fyw i wlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir, mae’n bosib y byddwch yn parhau i’w dderbyn o dan amgylchiadau penodol. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy

Mae’r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau ac yn rhoi cymorth ariannol i bobl anabl a gofalwyr. Mae’n delio â cheisiadau am Lwfans Gofalwr a llawer o fudd-daliadau anabledd.

Os ydych yn anhapus â’r gwasanaeth rydych yn ei gael gan y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr, gallwch wneud cwyn.