Newid eich enw a'ch cyfeiriad ar eich trwydded yrru :Cross Stitch – Moduro

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ar unwaith am unrhyw newidiadau i’ch enw, eich cyfeiriad neu’r ddau. Gallwch ddiweddaru eich trwydded yrru ar-lein neu ei hanfon i DVLA i’w newid. Ni chodir tâl am drwydded newydd oni bai ei bod yn bryd adnewyddu eich llun.

Gallwch newid eich enw, eich cyfeiriad neu eich rhyw ar eich trwydded drwy’r post.

Deiliad trwydded yrru cerdyn-llun

Pan fyddwch yn newid eich cyfeiriad bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi’r adran ‘newidiadau’ ar ran bapur eich trwydded, ei llofnodi a’i dyddio
  • anfon dwy ran eich trwydded yrru h.y. y cerdyn-llun a’r rhan bapur i DVLA, Abertawe, SA99 IBN

Pan fyddwch yn newid eich enw a newid eich cyfeiriad, neu newid eich enw heb newid eich cyfeiriad, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cwblhau ffurflen D1 ‘cais am drwydded yrru’ sydd ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA neu o unrhyw gangen o Swyddfa’r Post®
  • darparu dogfennau adnabod gwreiddiol yn cadarnhau eich enw newydd
  • amgáu eich trwydded yrru cerdyn-llun a’r rhan bapur (nid oes angen anfon llun newydd)

Pan fyddwch yn newid eich enw a’ch rhyw a newid eich cyfeiriad, neu newid eich enw a’ch rhyw heb newid eich cyfeiriad, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cwblhau ffurflen D1 ‘cais am drwydded yrru’ sydd ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA neu o unrhyw gangen o Swyddfa’r Post®
  • darparu dogfennau adnabod gwreiddiol yn cadarnhau eich enw newydd
  • amgáu eich trwydded yrru cerdyn-llun a’r rhan bapur
  • amgáu llun math pasbort

Os oes angen i chi adnewyddu eich llun

Gallwch adnewyddu eich llun ar unrhyw adeg, fodd bynnag, os yw’n bryd diweddaru eich llun, bydd angen ei adnewyddu cyn y dyddiad terfyn. Dangosir dyddiad terfyn eich llun yn adran 4b ar flaen eich trwydded yrru.

Bydd rhoi gwybod i DVLA bod eich manylion wedi newid yn sicrhau bod eich cofnod wedi’i ddiweddaru’n gywir ac y caiff pob ffurflen yn eich atgoffa am eich trwydded yrru ei hanfon i’ch cyfeiriad cywir.

Cofiwch, os byddwch yn symud i wlad arall yn barhaol, ni allwch gofrestru eich cyfeiriad newydd ar eich trwydded yrru Brydeinig. Bydd angen i chi gysylltu â’r awdurdod trwyddedau gyrru yn y wlad lle rydych yn byw.

Os ydych wedi colli eich trwydded yrru, neu os ydych wedi colli un rhan neu’r ddwy ran o’ch trwydded yrru cerdyn-llun bydd angen i chi wneud cais am un newydd a rhoi gwybod am unrhyw newidiadau ar yr un pryd.

Bydd DVLA yn ceisio anfon eich trwydded yrru newydd atoch o fewn tair wythnos i gael eich cais. Gall gymryd mwy o amser os bydd angen iddynt gadarnhau eich manylion iechyd neu’ch manylion personol. Dylech ganiatáu o leiaf dair wythnos i’ch trwydded yrru gyrraedd cyn cysylltu â DVLA.

Pan gaiff eich trwydded ei dosbarthu bydd yn cynnwys sawl nodwedd ddiogelwch ychwanegol. Un o’r prif wahaniaethau fydd y llun du a gwyn wedi’i ysgythru â laser.

Gallwch yrru cyn i chi gael eich trwydded cyn belled â’ch bod yn bodloni’r canlynol:

  • rydych wedi cael trwydded yrru Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon a gyhoeddwyd ers 1 Ionawr 1976 neu drwydded gyfnewidiadwy arall
  • nid ydych wedi’ch gwahardd rhag gyrru
  • ni wrthodwyd rhoi trwydded i chi am resymau meddygol neu am fethu â chydymffurfio ag ymchwiliadau meddygol
  • ni fyddai trwydded yn cael ei gwrthod i chi am resymau meddygol (os ydych yn ansicr, gofynnwch i’ch meddyg)
  • rydych yn cadw at unrhyw amodau arbennig sy’n berthnasol i’r drwydded

Gallwch roi gwybod i DVLA am newid enw a chyfeiriad tra byddwch wedi’ch gwahardd rhag gyrru. Bydd angen i chi ysgrifennu at DVLA, Abertawe, SA99 1AB yn rhoi manylion eich hen gyfeiriad a’ch cyfeiriad newydd, eich enw os yw wedi newid, rhif eich trwydded yrru (os ydych yn ei wybod) a’ch dyddiad geni.

Caiff cofnod eich trwydded yrru ei ddiweddaru a byddwch yn cael ffurflen gais D27 ar gyfer adnewyddu trwydded yrru 56 diwrnod cyn y bydd y cyfnod rydych wedi’ch gwahardd rhag gyrru yn dod i ben.

Mwy o ddolenni defnyddiol