Prawf gyrru ymarferol car ac ôl-gerbyd neu garafán :Cross Stitch – Moduro

Os gwnaethoch basio eich prawf gyrru car ar 1 Ionawr 1997 neu ar ôl hynny a’ch bod bellach am dynnu carafán neu ôl-gerbydau penodol, efallai y bydd yn rhaid i chi sefyll prawf gyrru arall. Mynnwch wybod am y rhannau gwahanol o’ch prawf gyrru.
Rhaid bod drychau wedi’u gosod yn allanol ar yr ochr i mewn ac ar yr ochr allan i’r arholwr eu defnyddio
Rhaid bod y canlynol yn gymwys ar gyfer y cyfuniad o gar ac ôl-gerbyd neu garafán:
- car nad yw’n cludo unrhyw nwyddau na llwyth
- ôl-gerbyd neu garafán nad yw’n cludo unrhyw nwyddau na llwyth, gydag uchafswm màs awdurdodedig (MAM) o un dunnell o leiaf
Efallai y bydd yr arholwr yn gofyn am dystiolaeth o uchafswm más awdurdodedig yr ôl-gerbyd – er enghraifft, rhif y gwneuthurwr.
Beth sy’n rhaid ei osod ar y cerbyd
Rhaid bod y canlynol wedi’u gosod ar y cerbyd:
- drychau sydd wedi’u gosod yn allanol ar yr ochr i mewn ac ar yr ochr allan i’r arholwr neu unrhyw un sy’n goruchwylio’r prawf eu defnyddio
- dyfais sy’n dangos bod cyfeirwyr yr ôl-gerbyd yn gweithio’n iawn – gall hwn fod yn rhywbeth y gallwch ei weld neu ei glywed
Rhaid i bob cyfuniad o gerbydau:
- fod â brêcs priodol
- defnyddio trefniant cyplu sy’n addas ar gyfer y pwysau
Adran cargo’r ôl-gerbyd
Rhaid bod adran cargo’r ôl-gerbyd:
- yn cynnwys blwch caeëdig
- mor llydan ac uchel â’r cerbyd sy’n tynnu, o leiaf
Gall lled yr ôl-gerbyd fod ychydig yn llai na’r cerbyd sy’n tynnu. Fodd bynnag, dim ond gan ddefnyddio drychau cefn allanol y cerbyd sy’n tynnu y dylai fod y bosibl gweld y cefn.
Cyn i chi ddechrau’r rhan o’ch prawf sy’n ymwneud â’ch gallu i yrru, byddwch yn cael prawf golwg a bydd gofyn i chi ateb pum cwestiwn yn ymwneud â diogelwch cerbydau.
Y prawf golwg
Bydd yr arholwr yn gofyn i chi ddarllen rhif cerbyd sydd wedi’i barcio er mwyn profi eich golwg. Gallwch ganfod sut mae’r prawf golwg yn gweithio drwy ddilyn y ddolen isod.
Bydd eich prawf yn cynnwys:
- yr ymarfer bacio’n ôl
- y gallu cyffredinol i yrru
- gyrru’n annibynnol
- stop wedi’i reoli
- dadgyplu ac ailgyplu
Mae’r prawf wedi’i lunio er mwyn i chi brofi i’r arholwr eich bod yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i dynnu ôl-gerbyd neu garafán yn ddiogel.
Yr ymarfer bacio’n ôl
Fel arfer, cynhelir yr ymarfer bacio’n ôl cyn i chi adael y ganolfan prawf. Bydd yn rhaid i chi ddangos y gallwch symud eich car a’ch ôl-gerbyd mewn lle cyfyngedig a stopio mewn man penodol.
Eich gallu cyffredinol i yrru
Yn ystod eich prawf, bydd yr arholwr yn rhoi cyfarwyddiadau y dylech eu dilyn. Byddwch yn gyrru o dan amrywiaeth o amodau o ran ffyrdd a thraffig. Bydd hyn yn cynnwys, lle bo hynny’n bosibl:
- ffyrdd deuol
- systemau un ffordd
- traffyrdd
Ni fydd gofyn i chi:
- wneud stop brys
- bacio’n ôl o amgylch cornel
- bacio’n ôl i barcio
- gwneud tro ar y ffordd
Y rhan o’r prawf gyrru sy’n ymwneud â gyrru’n annibynnol
Bydd eich prawf gyrru’n cynnwys gyrru’n annibynnol am tua deng munud.
Fel arfer bydd gofyn i chi ddadgyplu ac ailgyplu eich car a’ch ôl-gerbyd yn y ganolfan prawf ar ddiwedd y prawf.
Bydd yr arholwr yn gofyn i chi:
- stopio mewn lle diogel a gwastad
- dadgyplu eich car o’r ôl-gerbyd neu’r garafán
- parcio’r car wrth ochr yr ôl-gerbyd neu’r garafán
- adlinio’r car gyda’r ôl-gerbyd neu’r garafán a’u hailgyplu
Byddwch yn pasio eich prawf:
- os byddwch yn gwneud 15 neu lai o gamgymeriadau gyrru
- os na fyddwch yn gwneud unrhyw gamgymeriadau difrifol na pheryglus
Pan fydd y prawf gyrru yn dod i ben, bydd yr arholwr:
- yn dweud wrthych a ydych wedi pasio ai peidio
- yn egluro sut aeth y prawf
Y mathau gwahanol o gamgymeriadau y gellir eu marcio
Mae tri math o gamgymeriadau y gellir eu marcio:
- camgymeriad peryglus – sy’n golygu perygl gwirioneddol i chi, yr arholwr, y cyhoedd neu eiddo
- camgymeriad difrifol – a allai fod yn beryglus
- camgymeriad gyrru – nad yw’n beryglus, ond pe byddech yn gwneud yr un camgymeriad drwy gydol y prawf, gallai fod yn gamgymeriad difrifol
Y marc ar gyfer pasio’r prawf gyrru
Gallwch wneud hyd at 15 o gamgymeriadau gyrru a phasio’r prawf o hyd. Os byddwch yn gwneud 16 neu fwy o gamgymeriadau gyrru, ni fyddwch yn pasio’ch prawf.
Os byddwch yn gwneud un camgymeriad difrifol neu beryglus, ni fyddwch yn pasio eich prawf.
Sefyll prawf arall os na fyddwch yn pasio
Os na fyddwch yn pasio eich prawf, gallwch sefyll un arall ar ôl deg diwrnod gwaith. Mae diwrnodau gwaith yn cynnwys dydd Sadwrn.
