Problemau gyda'r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant – ble i ddechrau :Cross Stitch – Arian, treth a budd-daliadau

Os byddwch chi’n cael unrhyw broblemau gyda’ch Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, mae digon o gyngor a chymorth ar gael i’ch helpu. Cewch wybod, er enghraifft, beth i’w wneud os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i waith papur, os oes taliadau heb eu gwneud neu os nad ydych yn fodlon â darparwr.
Os byddwch chi’n colli manylion darparwr eich cyfrif, cysylltwch â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.
Bydd yn ddefnyddiol i chi gael Rhif Cyfeirnod Unigryw eich plentyn pan fyddwch yn galw. Bydd y rhif ar eich taleb neu ar unrhyw waith papur gan Gyllid a Thollau EM.
Os na allwch chi ddod o hyd i’r Rhif Cyfeirnod Unigryw, cysylltwch â Llinell Gymorth y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant beth bynnag.
Weithiau gallwch apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Gyllid a Thollau EM. Er enghraifft, gallwch apelio os bydd Cyllid a Thollau EM yn penderfynu peidio â rhoi taleb i chi.
Er mwyn apelio, bydd angen i chi ysgrifennu llythyr yn esbonio â beth rydych chi’n anghytuno a pham. Dylech ei anfon at:
The Customer Service Manager / Rheolwr Gwasanaethau CwsmeriaidChild Trust Fund Office / Swyddfa’r Gronfa Ymddiriedolaeth PlantWaterview ParkMandarin WayWashington
NE38 8QG
Bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi gwybod i chi os nad oes modd i chi apelio yn erbyn y penderfyniad.
Os na allwch chi apelio, gallwch wedyn ofyn i’ch Aelod Seneddol godi’ch achos gyda’r Ombwdsmon Seneddol.
Darparwyd gan the Child Trust Fund
