Pryd i gyflwyno HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol) :Cross Stitch – Moduro
Rhaid i bob cerbyd ym Mhrydain Fawr gael ei drethu os yw’n cael ei ddefnyddio neu ei gadw ar ffordd gyhoeddus. Rhaid i chi gyflwyno HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol) ar gyfer eich cerbyd a’i gadw oddi-ar-y-ffordd os nad yw wedi’i drethu. Byddwch yn wynebu camau gorfodi os na fyddwch wedi cyflwyno HOS.
Mae HOS yn gymwys i bob dosbarth treth, gan gynnwys y rheini lle nad oes toll yn daladwy, fel dosbarthiadau treth hanesyddol ac anabl.
Rhaid i chi gyflwyno HOS os bydd un o’r canlynol yn gymwys:
- os na fyddwch yn adnewyddu treth eich cerbyd a’ch bod yn cadw’r cerbyd oddi ar y ffordd
- os byddwch yn gwneud cais am ad-daliad treth cerbyd ac yn cadw’r cerbyd oddi ar y ffordd
- os byddwch yn prynu car heb dreth ac na fyddwch yn ei drethu
- os nad oes gennych yswiriant dilys ar gyfer y cerbyd
- os byddwch yn canslo’r yswiriant ac yn cadw’r cerbyd oddi ar y ffordd
- bob 12 mis os byddwch yn parhau i gadw eich cerbyd oddi ar y ffordd
- ymlaen llaw os caiff eich cerbyd ei gadw oddi ar y ffordd yn y DU tra byddwch dramor
Gallwch gyflwyno HOS o’r pumed diwrnod yn y mis y daw’r disg treth cyfredol neu’r HOS i ben. Ni ellir ôl-ddyddio HOS.
Mae eich HOS yn ddilys am 12 mis, oni fyddwch yn trethu, yn gwerthu, yn allforio’n barhaol neu’n sgrapio’r cerbyd (drwy gyfleuster trin awdurdodedig) cyn i’r cyfnod hwn ddod i ben. Dylid anfon llythyr atgoffa V11 atoch i’ch hysbysu bod eich HOS ar fin dod i ben, yna gallwch ei ddefnyddio i adnewyddu eich HOS neu aildrethu eich cerbyd.
Nid oes angen HOS os:
- nad oes gennych y cerbyd mwyach a’ch bod wedi hysbysu DVLA
- byddwch yn mynd â’r cerbyd dramor yn barhaol
- byddwch yn gwneud cais am ad-daliad treth cerbyd a ddim yn cadw’r cerbyd
- byddwch yn cadw’r cerbyd oddi ar y ffordd a heb dreth am lai na 14 diwrnod
- cafodd eich cerbyd ei drethu ddiwethaf cyn 31 Ionawr 1998
Mae’r gyfraith newydd sy’n ymwneud ag yswiriant cerbyd yn golygu bod yn rhaid i geidwad cofrestredig cerbyd sicrhau ei fod wedi ei drethu a’i yswirio tra bydd yn ei ddefnyddio ar y ffordd.
Rhaid i chi gyflwyno HOS os yw eich cerbyd:
- heb dreth ac oddi ar y ffordd
- heb yswiriant ac oddi ar y ffordd
- wedi’i drethu a’i yswirio – rhaid i chi yswirio eich cerbyd neu wneud cais am ad-daliad gyda datganiad HOS i DVLA
Os nad oes gennych yswiriant ac nad ydych wedi cyflwyno HOS, gallech wynebu cosb.
Os oes gennych gerbyd sydd wedi’i drethu ond heb ei yswirio y byddwch yn ei gadw oddi ar y ffordd, mae angen i chi ddychwelyd y disg treth. Gallwch wneud hyn ar ffurflen V14 (gan gynnwys disgiau dim gwerth) a datgan HOS ar yr un pryd.
Gallwch yrru eich cerbyd i brawf a drefnwyd ymlaen llaw mewn gorsaf prawf MOT ac oddi yno ar yr amod bod gennych yswiriant digonol ar gyfer y cerbyd hwnnw.
Efallai y byddwch am adael y disg treth ar y cerbyd os yw’n debygol o gael ei drwsio. Os yw’n debygol y bydd y cerbyd y tu hwnt i’w drwsio, dylech drefnu ble y caiff y cerbyd ei storio gyda’r cwmni yswiriant.
Rhaid i’r cerbyd gael ei drethu’n barhaus a dangos disg treth dilys os caiff ei gadw ar ffordd gyhoeddus.
Er mwyn rhyddhau eich atebolrwydd am y cerbyd, rhaid i chi gwblhau ffurflen V5C/3.
Ffordd a gynhelir ar draul y cyhoedd yw ffordd gyhoeddus, gan gynnwys ymylon gwair a thir ar ochr y ffordd. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol os bydd gennych unrhyw amheuaeth am ardal lle rydych am barcio eich cerbyd. Rhaid i bob cerbyd a ddefnyddir neu a gedwir ar ffordd gyhoeddus gael ei drethu a dangos disg treth dilys bob amser.
